Yn 2019 cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd ac ecolegol, ac rydym wedi datblygu cynllun i arwain ein gweithredoedd i leihau allyriadau carbon.
Fel rhan o’n taith tuag at sero net, rydym yn ailgyflwyno ein cynllun beiciau o gronfa staff.
Mae defnyddio beic yn cynnig nifer o fuddion amgylcheddol yn ogystal â manteision eraill, gan gynnwys gwell ffitrwydd, llai o straen, ac arbedion cost sylweddol ar danwydd a pharcio, tra’n hybu iechyd a lles.
Mae ein beiciau ar gael i staff y cyngor yn y lleoliadau canlynol:
- Abbey Road
- Ffordd Rhuthun
- Adeiladau’r Goron (lle gall staff o Stryt y Lampint a Neuadd y Dref gael mynediad hawdd atynt hefyd)
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Drwy ddarparu beiciau hygyrch i’n gweithwyr eu defnyddio yn ystod oriau gwaith, rydym yn ymdrechu i leihau allyriadau carbon, lleddfu tagfeydd traffig, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol Wrecsam.
“Mae ailgyflwyno’r fenter gyffrous hon yn annog ein staff i fod yn fwy egnïol, ac mae’n cynnig opsiwn teithio cyfleus a hygyrch ar gyfer teithiau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae menter beiciau o gronfa staff yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, gan groesawu arferion amgylcheddol ymwybodol o fewn ein cymuned.
“Gall unrhyw aelod o’n staff fenthyg un o’r beiciau ar gyfer eu teithiau dyddiol sy’n gysylltiedig â gwaith, gan eu helpu i deithio’n gyflym i gyfarfod cyfagos, gan fwynhau reid adfywiol ar yr un pryd.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.