Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus
Y cyngorPobl a lle

Fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus

Diweddarwyd diwethaf: Awst 4, 2023 4:57 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
foster wales
RHANNU

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofalu plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru yn pwysleisio manteision partneru ag awdurdod lleol ar gyfer maethu. Mae’r symudiad hwn yn rhan o drawsnewidiad cynhwysfawr o wasanaethau plant yng Nghymru.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru:

“Mae’r newidiadau hyn yn gyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirhoedlog i’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru – er budd pobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw ac yn y dyfodol. Mae gofalwyr maeth yn allweddol i wneud y newid hwn yn llwyddiant gan fod eu profiad a’u harbenigedd yn hollbwysig.

“Mae gofal maeth awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys cefnogaeth gan dîm arbenigol lleol, cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, lwfans hael i’ch cefnogi gyda gofal y plentyn sydd wedi’i leoli gyda chi, a chymuned barod o ofalwyr eraill gerllaw.

“Yn bwysicaf oll, mae’n helpu pobl ifanc i aros yn eu cymuned leol. Gwyddom, pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol, a bod ganddynt rywun i gadw atynt yn y tymor hir, ein bod yn gweld canlyniadau gwell.

“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru gamu ymlaen. Yn Maethu Cymru, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gael effaith genedlaethol, gan wneud gofal maeth yng Nghymru y gorau y gall fod i’n pobl ifanc, drwy wrando ar y rhai sy’n gofalu amdanynt.

“Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gofalu am blant, neu’r rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gyda sefydliad er elw, i wneud ymholiad heddiw, a bod yn rhan o’r newid cadarnhaol hwn i greu dyfodol gwell i blant maeth lleol yng Nghymru.”

Symudodd gofalwyr maeth lleol, Cath a Neil, o asiantaeth faethu annibynnol i faethu gyda’u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Wrecsam yn 2018.

“Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol. Pan oedden ni’n maethu gydag asiantaeth, roedd plant yn aml yn cael eu symud o gwmpas llawer, o ofalwr i ofalwr, weithiau ymhell o’u gwreiddiau.”

Nawr, mae’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u perthnasau, ac mae hynny’n hollbwysig.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Cafodd Tayler ei maethu gan ei hawdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin, esboniodd: “Do’n i ddim yn gwybod bod rhai busnesau preifat yn gwneud elw o ofal. Mae hynny’n gwneud i fi deimlo nad plant bregus yw’r flaenoriaeth, ond yr arian.

“Diolch i fy awdurdod lleol, fe wnes i raddio o’r brifysgol yn ddiweddar, a fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol dros wasanaethau plant: “Mae bod yn ofalwr maeth gyda Chyngor Wrecsam yn cynnig y cyfle i wneud newid hirdymor a chadarnhaol i ofal ein pobl ifanc, sydd o fudd iddynt heddiw ac yn y dyfodol.

“Mae llawer o fanteision i ofalwyr, gan gynnwys cymorth a hyfforddiant, gan roi’r dewis i bobl ifanc aros yn eu hardal leol. Mae cymunedau lleol yn allweddol i wneud i’r newid hwn ddigwydd felly cysylltwch â’n tîm maethu os oes gennych ddiddordeb.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i Maethu Cymru.

https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/
Rhannu
Erthygl flaenorol sialens ddarllon yr haf Ar eich marciau, barod, darllenwch…a dysgwch am wyddoniaeth!
Erthygl nesaf Beiciau o gronfa staff yn ôl! Beiciau o gronfa staff yn ôl!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English