Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > “Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol”
Y cyngorPobl a lle

“Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol”

Diweddarwyd diwethaf: Awst 4, 2023 5:11 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
foster wales
RHANNU

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Wrecsam yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Wrecsam – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol dros wasanaethau plant:

“Mae bod yn ofalwr maeth gyda Chyngor Wrecsam yn cynnig y cyfle i wneud newid hirdymor a chadarnhaol i ofal ein pobl ifanc, sydd o fudd iddynt heddiw ac yn y dyfodol.

“Mae llawer o fanteision i ofalwyr, gan gynnwys cymorth a hyfforddiant, gan roi’r dewis i bobl ifanc aros yn eu hardal leol. Mae cymunedau lleol yn allweddol i wneud i’r newid hwn ddigwydd felly cysylltwch â’n tîm maethu os oes gennych ddiddordeb.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Symudodd gofalwyr maeth lleol, Cath a Neil, o asiantaeth faethu annibynnol i faethu gyda’u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Wrecsam yn 2018.

 “Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol. Pan oedden ni’n maethu gydag asiantaeth, roedd plant yn aml yn cael eu symud o gwmpas llawer, o ofalwr i ofalwr, weithiau ymhell o’u gwreiddiau.”

Nawr, mae’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u perthnasau, ac mae hynny’n hollbwysig.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i Maethu Cymru or email fostering@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Beiciau o gronfa staff yn ôl! Beiciau o gronfa staff yn ôl!
Erthygl nesaf River Cynnydd sylweddol o ran materion ffosffadau yn caniatáu i Wrecsam ddechrau gweithio trwy ôl-groniad cynllunio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English