Yn ystod y deuddeg mis diwethaf rydym ni wedi gweld sawl stori yn y papurau newydd sydd wedi sbarduno momentwm byd-eang ar gyfer cydraddoldeb rhyw, fel #MeToo a #TimesUp.
Ac mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni yn adeiladu ar y momentwm yma ac yn defnyddio thema ‘Pwyso am Gynnydd’ i amlygu’r angen i barhau i ymgyrchu dros gydraddoldeb i ferched.
Wedi ei gynnal pob blwyddyn ar 8 Mawrth, mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched wedi ei ddathlu ers 1911 pan gafodd ei sefydlu gan y Swffragetiaid. Eleni rydym ni’n dathlu 107 o flynyddoedd ers sefydlu’r diwrnod, 100 mlynedd ers i Senedd y DU basio’r gyfraith i ganiatáu i rai merched (dros 30 oed) bleidleisio am y tro cyntaf a 40 mlynedd ers sefydlu Cymorth i Fenywod Cymru.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Yn Wrecsam, mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu mewn sawl ffordd. Bydd Tîm Cyfranogi Cyngor Wrecsam yn rhoi cyfle i ferched ifanc 11-20 oed i gysgodi merched ysbrydoledig mewn swyddi a lleoliadau amrywiol am y diwrnod, ac mae Cwmni Buddiannau Cymunedol CLPW yn cynnal cinio merched yn unig yn Luso Foods Portugese Flavours – ac mae’r digwyddiad hwn wedi bod mor boblogaidd nes bod yr holl docynnau wedi eu gwerthu.
Mi fydd Theatr y Stiwt yn Rhos hefyd yn dangos ffilm Suffragette yn rhad ac am ddim, gyda gair ar y cychwyn gan y Cyng. Gwenfair Jones.
Nod Diwrnod Rhyngwladol y Merched yw dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwydiannol a gwleidyddol merched a hyrwyddo’r ymgyrch dros gydraddoldeb rhyw.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.