Beth ddigwyddodd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddoe?
Cyfarfu ein Bwrdd Gweithredol ddoe, gan gytuno, nodi neu gymeradwyo nifer o eitemau busnes.
Mae’n bosibl eich bod eisoes wedi gweld eu bod wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg newydd â lle i 210 o ddisgyblion ym Morras ac i ymgynghori ar gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Bro Alun yn barhaol.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Gwnaethant hefyd gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr, sy’n rhoi darlun clir i chi, y cyhoedd, am sut hwyl mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam yn ei gael. Mae’n adroddiad sy’n gyfeillgar iawn i ddefnyddwyr ac os hoffech ei weld, gallwch gael mynediad iddo yma (dolen).
Cafodd y Cytundeb Llywodraethu a Chynnig Twf Gogledd Cymru eu cymeradwyo a byddant yn mynd i’r Cyngor llawn ddydd Iau i gael eu cymeradwyo.
Cafodd Aelodau ddiweddariad hefyd ar Raglen Gyfalaf dreigl pum mlynedd y cyngor, sy’n nodi’r cynlluniau cyfalaf yn y Fwrdeistref Sirol.
Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd cyfanswm y gwariant cyfalaf yn £67m ac roedd tua £49m ohono yn mynd tuag at wella tai. Bwriedir gwario tua £71m yn gyffredinol eleni, gyda £50m wedi’i neilltuo ar gyfer tai.
Bydd cynnydd o ran cyllid ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl o £1.3m ac ar gyfer gwella effeithlonrwydd ein goleuadau stryd.
Mae gwelliannau a gwaith ailwampio i’n hysgolion, pontydd a ffyrdd hefyd. Mae’r rhestr yn rhy hir i’w rhoi yma, felly efallai byddwch am edrych arni eich hun yma .
Roedd adroddiadau eraill yn cynnwys adroddiad Rheoli Trysorlys ac adroddiad Perfformiad Chwarter 4; a’r Nodyn Canllawiau Cynllunio Lleol wedi’i Ddiweddaru ar barcio, a fabwysiadwyd ac mae bellach yn darparu canllawiau gwell i ymgeiswyr cynllunio, datblygwyr a phenseiri ar safonau parcio uchaf a fydd yn berthnasol i gynigion am Dai Amlfeddiannaeth.
Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod bob mis ac anogir aelodau’r cyhoedd i fynychu.
Gallwch weld gweddarllediadau o’r cyfarfodydd yma.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB