Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd Swyddogion Heddlu Canol Tref Wrecsam yn cydweithio gyda Swyddogion Trwyddedu a Safonau Masnach i ymgysylltu gyda busnesau trwyddedig mewn ymgyrch gyda’r nod o leihau trosedd a chynyddu diogelwch y cyhoedd.
Bydd swyddogion yn siarad â gyrwyr tacsis, dalwyr trwydded tafarndai a chlybiau yn ogystal â pherchnogion siopau a siopau trwyddedig. Bwriad yr ymgyrch yw gwneud dalwyr trwydded yn ymwybodol o’u rôl mewn atal troseddu yn ogystal â hyrwyddo gwaith partneriaeth parhaus, gan gynnwys atal gwerthu alcohol i blant dan oed, trais domestig, dwyn a gwerthiant nwyddau wedi’u dwyn.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae Swyddogion wedi bod yn ymgysylltu gyda busnesau yn ystod oriau gweithredol, gan ymweld â safleoedd a siarad gyda dalwyr trwydded gan weithio yn eu cerbydau.
Dywedodd Joss Thomas, Arweinydd Tîm Trwyddedu cyngor Wrecsam: “Mae ‘r ymgyrch yn enghraifft wych o gydweithio cadarn rhwng yr heddlu, y Cyngor a busnesau lleol. Rydym yn aml yn ymwybodol bod dalwyr trwyddedau a pherchnogion busnes yn gallu bod yn ‘lygaid ac yn glustiau’ i ni ar y strydoedd, ac mae ganddynt y gallu i edrych allan am weithgareddau anghyfreithlon, a chwarae rôl allweddol mewn cefnogi’r bartneriaeth, hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a chynorthwyo ein hymgyrchoedd.”
Dywedodd y Sarjant, Simon Williams Canol Tref Wrecsam “Mae Atal yn gydran allweddol o ddarparu cymdogaeth fwy diogel i’n cymunedau ac mae ein perthynas gwaith cadarnhaol gyda Chyngor Wrecsam yn parhau drwy gydol mis Rhagfyr gyda nifer o ymgyrchoedd atal troseddu.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU