Mae Estyn wedi lansio arolwg i ofyn i breswylwyr yn Wrecsam am eu barn ar ba mor dda y mae gwasanaethau addysg a ddarperir gan Gyngor Wrecsam yn cefnogi ysgolion a gwasanaethau ieuenctid.
Mae’r arolwg yn gofyn i rieni, gofalwyr, dysgwyr ac unrhyw un sy’n gweithio neu’n ymwneud ag addysg helpu arolygwyr i farnu pa mor effeithiol yw’r gwasanaethau addysg o ran sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn yr addysg y mae ganddyn nhw hawl iddi.
Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae’r arolwg ar agor tan 27 Medi.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r arolwg yn rhan o’r fframwaith arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau addysg llywodraeth leol yng Nghymru. Defnyddir canlyniadau’r arolwg i lywio’r arolygiad o Wrecsam sy’n dechrau ym mis Hydref.
Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn: “Mae barn leol gan y rhai sy’n ymwneud ag ysgolion a gwasanaethau ieuenctid yn hanfodol i helpu i roi darlun ar ba mor dda y mae’r cyngor yn perfformio. Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae’r gwasanaethau addysg yn helpu disgyblion i gyflawni, cefnogi’r rhai sy’n ddiamddiffyn neu sydd ag anghenion penodol ac yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “O ystyried pwysigrwydd arolygiadau a gynhelir gan Estyn, a’r arolygiad o bob awdurdod sydd ar y gorwel, byddem yn annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg yn Wrecsam i gymryd rhan yn arolwg Estyn.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION