Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwiriwch sgoriau hylendid bwyd cyn i chi archebu eich parti Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwiriwch sgoriau hylendid bwyd cyn i chi archebu eich parti Nadolig
Pobl a lleY cyngor

Gwiriwch sgoriau hylendid bwyd cyn i chi archebu eich parti Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: 2019/09/02 at 3:06 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwiriwch sgoriau hylendid bwyd cyn i chi archebu eich parti Nadolig
RHANNU

Wrth i’r nosweithiau gau i mewn, ac rydym yn cychwyn meddwl am y gaeaf hir o’n blaenau, mae ein meddyliau’n troi at y Nadolig, a’r cwestiynau mae hynny’n ei godi…

Pwy sy’n dod atom ni? Lle awn ni? Twrci neu gig eidion? Beth i brynu i Taid? Lle awn ni ar gyfer y Parti Nadolig?

Nid oes modd i ni helpu gyda’r cwestiynau cyntaf yna, ond gallwn fod o gymorth gyda’r olaf – y Parti Nadolig.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Eu caru neu eu casáu, rydym ni gyd yn cael ein gwahodd i un o leiaf!

A cyn i chi benderfynu rhoi eich enw ar y rhestr a thalu eich blaendal, dylech wirio sgoriau hylendid bwyd y lleoliad.

Ac os mai chi sy’n trefnu’r parti, treuliwch amser yn gwirio sgôr hylendid y lleoliad – mae gan sawl le bamffledi deniadol a sgleiniog, ond os nad yw’n arddangos y sgôr hylendid bwyd, mae modd i chi ei wirio ar-lein. Mae’n ddoeth gwirio a oes gan unrhyw westeion alergedd bwyd, ac os felly, peidiwch ag anghofio gadael i’r lleoliad wybod pan rydych yn archebu eich lle.

Mae’n hawdd ac yn gyfleus – a gallwch arbed eich hun a’ch cydweithwyr neu berthnasau rhag dreulio’r Nadolig yn ddiflas iawn.

Mae’n rhaid i fusnesau Cymru arddangos eu sgôr yn yr eiddo, yn ôl y gyfraith, yn ogystal â hysbysu cwsmeriaid o’u sgôr pan fyddant yn gofyn. Gallwch ei wirio’n gyflym ac yn gyfleus yma.

Er mwyn derbyn sgôr, mae lleoliadau sy’n gwerthu bwyd, megis bwytai, mannau prydau cyflym a thafarndai yn cael eu harchwilio gan swyddogion o’n Tîm Bwyd a Ffermio i wirio bod eu safonau hylendid yn bodloni gofynion cyfreithiol.

Mae’r safonau hylendid a ddarganfyddir o’r archwiliadau hyn yn cael eu sgorio ar raddfa’n cychwyn ar 0 (gwelliannau brys yn angenrheidiol) i 5 (da iawn) yn dilyn archwiliad hylendid bwyd heb rybudd.

Yn ystod archwiliadau, bydd swyddogion yn gwirio pa mor dda mae’r busnes yn bodloni’r gyfraith drwy edrych ar:

Pa mor lân y caiff y bwyd ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio,

Cyflwr strwythur yr adeiladau – glanweithdra, y cynllun, goleuadau, awyru a chyfleusterau eraill,

Sut mae’r busnes yn rheoli ac yn cofnodi’r camau a gymerir i sicrhau fod bwyd yn ddiogel, a hyfforddiant diogelwch bwyd.

Bydd y swyddog yn esbonio i’r unigolyn sy’n berchen ar y busnes, neu’n ei reoli, pa welliannau sydd eu hangen a sut y gallant gyflawni’r sgôr uchaf o ‘5’. Dylai bob busnes allu cyrraedd y sgôr uchaf hwn.

Felly, beth bynnag fo’ch dewis y Nadolig hwn, sicrhewch ei fod yn cael ei baratoi’n lân, ac yn annhebygol o roi boen bôl i chi, neu waeth.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Beth ydych chi'n ei feddwl o addysg? Cymerwch ran yn yr arolwg hwn Beth ydych chi’n ei feddwl o addysg? Cymerwch ran yn yr arolwg hwn
Erthygl nesaf A oes gennych chi blentyn ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig (ASD)? A oes gennych chi blentyn ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig (ASD)?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English