Bydd Wythnos Genedlaethol Diogelu 2017 yn dechrau ar 13 Tachwedd ac yn yr erthygl hon hoffem amlygu bod Diogelu rhag camdriniaeth o ba bynnag natur “o bwys i bawb, yn bryder i bawb ac yn gyfrifoldeb pawb”.
Y thema ar gyfer wythnos Diogelu eleni yw “Gwytnwch ac Iechyd Meddwl” a gall gweithredu ar yr hyn yr ydym yn ei weld a’i glywed yn digwydd o’n cwmpas fod yn gam mawr i helpu iechyd meddwl rhywun a’u gwneud yn fwy gwydn i gamdriniaeth yn y dyfodol.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
“Pa gamdriniaeth ydyn ni’n sôn amdano?”
Gall camdriniaeth ddigwydd yn erbyn oedolion a phlant a gall fod yn gorfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol neu’n ariannol. Gall fod yn rhywbeth sy’n gwneud rhywun yn ofnus neu’n ofidus. Gall hefyd olygu cymryd eu hawl i ddewis oddi arnynt neu fanteisio arnynt drwy ddwyn neu wneud iddynt dalu am bopeth – hyd yn oed os ydynt yn ymddangos fel ffrindiau.
“Sut allaf i helpu?”
Gallwch helpu drwy naill ai roi gwybod eich hun neu annog dioddefwyr i roi gwybod. Gallwch roi gwybod am bryder am oedolyn ar 01978 298248 neu am blentyn ar 292039.
Os bydd y tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 0345 0533116 ar gyfer oedolion neu blant.
Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol ffoniwch yr heddlu.
Bydd pryderon yn cael eu hystyried yr un mor ddifrifol â “ffeithiau” a byddant yn cael eu hystyried i weld a oes angen ymchwiliad llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol: “Mae camdriniaeth yn digwydd mewn sawl ffurf a gall fod yn erbyn oedolion a phlant, yn erbyn y rhai sy’n amlwg yn fregus ac weithiau yn erbyn y sawl sy’n ymddangos yn fwy gwydn na’r rhan fwyaf. Rydym i gyd yn ymwybodol ohono ond ddim yn angenrheidiol yn teimlo y gallwn wneud rhywbeth amdano. Hoffem godi eich ymwybyddiaeth o’r hyn y gallwch ei wneud a pha gyngor y gallwch chi ei roi i unrhyw un rydych yn gwybod sy’n dioddef camdriniaeth ac angen help.”
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.