Wedi’i gefnogi gan Gyngor Wrecsam bydd HWB Cymraeg yn cynnal ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, artistiaid a bandiau Cymraeg ar Sgwâr y Frenhines fel rhan o ŵyl Focus Wales.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Os nad ydych wedi ymweld â’r ŵyl o’r blaen yna ni fydd dod o hyd i’r HWB yn anodd gan y cynhelir yr HWB mewn pabell tipi anferth, ond yn aml gellir clywed y gerddoriaeth cyn i chi weld y tipi!
Yn ystod y dydd mae HWB Cymraeg yn cynnal gweithdai a digwyddiadau gan gynnwys gwersi Cymraeg, Parti Magi Ann a sioe hud.
Wrth iddi nosi mae’r tipi yn croesawu rhai o berfformwyr adnabyddus o Gymru a thu hwnt.
Er bod angen tocyn ar gyfer rhai digwyddiadau, mae mynediad i ddigwyddiadau eraill ar gael gyda band arddwrn FOCUS Wales, ac yn ystod y dydd yn gyffredinol bydd yr HWB ar agor i unrhyw un sydd eisiau galw heibio, mwynhau’r awyrgylch, dros goffi efallai (neu rywbeth o’r bar) gan fwynhau’r hyn sydd i’w gynnig.
Dywedodd Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’n wych bod HWB Cymraeg yn ôl yn FOCUS Wales eto eleni. Gan fod y tipi yng nghanol y dref rydym yn cael llawer o ymwelwyr yn galw heibio i fwynhau rhywfaint o Ddiwylliant Cymru. “Mae rhaglen amrywiol yma sy’n addas i bobl o bob oedran a phob gallu”.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:”Mae’r awyrgylch yn wych bob tro yn HWB Cymraeg ac mae’n gyfle gwych i hybu’r Gymraeg, os ydych yn rhugl ai peidio, neu os nad ydych yn siarad gair o Gymraeg – efallai y byddwch yn gadael wedi dysgu ambell air newydd.”
Mae modd gweld beth sydd ar y gweill yn HWB Cymraeg drwy lawrlwytho ap FOCUS Wales yma:
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL