Ymwelodd Maer Wrecsam y Cynghorydd Ronnie Prince, Arweinydd Cyngor Wrecsam y Cynghorydd Mark Pritchard ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio y Cynghorydd Terry Evans ag Adennill Treth Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Roedd yr ymweliad i gydnabod bod y cwmni adennill treth sydd wedi’i leoli yn y Waun wedi rhagori £1miliwn mewn budd-daliadau treth ar ran cleientiaid yn eu blwyddyn gyntaf o fasnachu- roedd hwn yn cynnwys 21 fusnes yn ardal Wrecsam.

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cyng. Ronnie Prince: “Roedd yn braf cwrdd â Joshua, Chris a Darren yn Adennill Treth Cymru i glywed sut mae eu busnes yn gweithio, a sut all helpu busnesau eraill. “

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Hoffwn longyfarch y busnes ar y garreg filltir hon a dymunaf yn dda i Joshua, Chris a Darren wrth dyfu Adennill Treth Cymru dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’n wych clywed fod busnes ariannol wedi dewis Wrecsam, ac y Waun yn benodol fel cartref.”

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Adennill Treth Cymru, Joshua Davies: “Roedd yn bleser croesawu Maer Wrecsam, Arweinydd Cyngor Wrecsam Mark Pritchard ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio Terry Evans i’n swyddfa yn Wrecsam, i ddathlu’r busnes yn cyrraedd £1 miliwn mewn budd-daliadau treth i gleientiaid yn ein blwyddyn gyntaf o fasnachu. Mae’r cymorth sydd wedi cael ei ddangos gan awdurdodau lleol, cymunedau a busnesau o fewn Gogledd Cymru ers agor ein swyddfeydd ym mis Ionawr wedi bod yn anhygoel, a hir oes i hynny. Ein prif nod yw sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol o ddeddfwriaethau treth arbenigol sydd ar gael iddynt. Edrychwn ymlaen at groesawu’r Maer ac Arweinwyr y Cyngor yn ôl pan fyddwn yn cyrraedd £5 miliwn mewn budd-daliadau i gleientiaid!”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL