Cyhoeddwyd fod 2018 yn Flwyddyn Ewropeaidd Treftadaeth Ddiwylliannol – ond beth mae hynny’n ei olygu?!
Gall treftadaeth ddiwylliannol olygu nifer o bethau i wahanol bobl. Mae o’n cwmpas ymhob man, mewn adeiladau a thirluniau, ond hefyd gall fod yn y crefftau rydym yn eu dysgu, y straeon rydym yn eu hadrodd a’r bwyd rydym yn ei fwynhau.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Mae edrych ar dreftadaeth ddiwylliannol ar draws Ewrop yn dangos i ni pa mor wahanol ydym ni, yn ogystal â dangos i ni gymaint sydd gennym yn gyffredin.
Mae Blwyddyn Ewropeaidd Treftadaeth Ddiwylliannol 2018 yn gwahodd pawb ar draws Ewrop i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhoi’r cyfle i chi ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol.
Yn Wrecsam, gallwch ddweud wrthym beth y credwch sy’n arddangos treftadaeth Wrecsam drwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth llun cyfryngau cymdeithasol Europe Direct – ac fe allech ennill £50 hefyd! Cliciwch yma i wybod mwy.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB