Covid 19 scam alert

Diweddariad (19.03.20)

Yn anffodus mae’n rhaid i ni ddiweddaru’r neges hon gan fod Safonau Masnach mewn man arall yn y wlad wedi cael adroddiadau bod pobl yn cymryd arian i nôl nwyddau siopau a hanfodion eraill ac yn diflannu gyda hwy. Defnyddiwch pobl yr ydych yn ymddiried ynddynt yn unig megis ffrindiau, teuluoedd a chymdogion.

Sgamiau Covid – 19 (18.03.20)

Mae’r nifer o dwyllwyr yn targedu’r cyhoedd a sefydliadau drwy ebost, neges testun, galwadau ffôn a negeseuon WhatsApp i gynnig cyngor a thriniaeth i’r feirws corona, yn ogystal â gwefannau ffug yn gwerthu nwyddau a cynnig ‘gwellad’.

Mae sgamwyr hefyd wedi sefydlu gwefannau ffug yn gofyn i bobl gyfrannu tuag at ddioddefwyr ac er mwyn hybu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am sut i warchod oddi wrth y salwch. Mae galwyr di-wahoddiad wedi bod yn cysylltu âbusnesau yn honni fod raid iddynt roi mesurau yn ei lle ar frys.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Er mwyn helpu’r cyhoedd amddiffyn eu hunain rhag dod yn ddioddefwr twyll,, mae Cifas, Gwasanaeth Arbed Twyll y DU yn cynghori:

  • Byddwch yn amheus os yn derbyn ebost, neges testun neu negeseuon WhatsApp am Covid-19 a peidiwch byth â chlicio ar unrhyw linc neu atodiad.
  • Peidiwch rhannu manylion personol fel eich enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni – gall sgamwyr ddefnyddio’r wybodaeth yma i ddwyn eich hunaniaeth
  • Peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch i gyfrannu arian, a pheidiwch rhoi ariad parod na cherdyn anrheg, na gyrru arian drwy asiantau trosglwyddo fel Western Union neu Moneygram
  • Os yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, siaradwch a’ch banc yn union a riportiwch y twyll i Action Fraud ar 0300 123 2040.
  • Cewch fwy o wybodaeth ar ddelio â sgamiau a thwyll drwy alw’r llinell defnydwyr ar 0808 223 1144 neu cysylltwch â Chyngor ar BopethMae Safonau Masnach Cymru yn cynghori preswylwyr i gysylltu a’i Cyngor lleol am wybodaeth am wasanaethau a chymorth yn eu hardal.

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

RYDW I EISIAU TALU RŴAN