Y wybodaeth ddiweddaraf am effaith y streic
Mae’n debyg eich bod yn ymwybodol fod Unite the Union yn bwriadu parhau â’r cyfnod presennol o weithredu diwydiannol hyd at Dachwedd 24, 2023. Gyda hyn mewn golwg rydym wedi bod yn gweithio i lunio cynllun ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros yr wythnosau nesaf.
O ddydd Llun, 9 Hydref, bydd newid dros dro i’r amserlen casglu yn ystod y camau gweithredu diwydiannol parhaus.
Mae’r amserlen casglu dros dro (o 9 Hydref) yn golygu y caiff eich casgliadau eu rhannu’n gylch tair wythnos, pan fyddwn yn ceisio casglu:
- Eich biniau du/glas a’ch gwastraff bwyd un wythnos
- Eich deunydd ailgylchu sych a’ch gwastraff bwyd un wythnos
- Dim casgliad am un o’r wythnosau
Mae’n bwysig nodi nad yn y drefn hon y caiff eich gwastraff ei gasglu o reidrwydd, e.e. efallai y bydd eich bin du yn cael ei gasglu yn yr wythnos gyntaf, efallai y caiff ei gasglu yn yr ail neu’r drydedd wythnos, sef pam mae’n bwysig iawn gwirio eich diwrnod casglu yn gyntaf bob amser.
Yn ystod y cyfnod hwn, y ffordd orau o wirio eich diwrnodau casglu yw rhoi eich cod post yn yr adran gwirio’ch diwrnod bin ar ein gwefan.
Rhannwch y wybodaeth hon gyda’ch ffrindiau, teulu a chymdogion na fyddant efallai wedi gweld ein diweddariadau, neu a allai fod angen cymorth i wirio eu dyddiadau casglu newydd.
Mae cymorth ychwanegol i wirio dyddiadau casglu sydd wedi’u diweddaru hefyd ar gael trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01978 298989 neu e-bostio cysylltwch@wrecsam.gov.uk neu gallwch alw heibio i’ch swyddfa stad dai leol.
Rydym wedi gorfod gwneud y newidiadau hyn wrth i ni barhau i gydbwyso’r adnoddau sydd gennym ar draws y rowndiau casglu, ac ar hyn o bryd, dim ond casgliadau ar amlder a reolir y gallwn eu cynnig.
Bydd y newidiadau hyn yn digwydd o ddydd Llun, 9 Hydref, ac maen nhw’n disodli unrhyw ohebiaeth flaenorol a gawsoch.
Pethau eraill o bwys
• Gallai tywydd gaeafol effeithio ar ein gallu i ddilyn yr amserlen arfaethedig
• Gellir casglu bagiau cadi a sachau glas ychwanegol o amryw leoliadau ar draws Wrecsam
Rydym yn sylweddoli bod y tarfu hwn ar eich casgliadau’n rhwystredig ond rydym yn gweithio’n galed i geisio rheoli ein gwasanaethau a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus.
Er ein bod wedi rhoi amlinelliad o’r hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud, rydym yn gweithio drwy gyfnod o weithredu diwydiannol ac mae’n rhaid i ni asesu’r adnoddau sydd ar gael ar sail ddyddiol – yn ogystal â chydbwyso’r galw am wasanaethau hanfodol eraill (er enghraifft ymateb i argyfyngau yn ystod tywydd garw).