Nid amser i fod yn cuddio tu mewn ydi gwyliau’r haf.
Mae’n amser gwych i fod allan yn yr awyr agored – a bod yn weithgar!
Mae Freedom Leisure, sydd yn rhedeg ein Canolfan Hamdden a Gweithgareddau, yn herio plant i fod yn weithgar yn ystod gwyliau’r haf gyda’i Her Ffitrwydd yr Haf i Blant flynyddol.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae’r her yma sydd wedi ennill gwobrau yn annog cannoedd o blant bob blwyddyn i gadw eu hunain yn ffit yn ystod gwyliau’r haf.
Cofrestrwch ar-lein
I gymryd rhan yn Her Ffitrwydd yr Haf i Blant, gall plant gofrestru ar-lein a lawrlwytho ac argraffu eu dyddiadur ffitrwydd eu hunain (gyda chymorth rhiant neu warcheidwaid).
Ar gyfer pob 10 gweithgaredd a gwblheir yn llwyddiannus, bydd plant yn derbyn taleb gwobr fechan – gyda’r nod o’u hysgogi ar gyfer y 10 gweithgaredd nesaf!
Does dim rhaid i’r gweithgareddau fod yn anodd.
Fe allant gynnwys chwarae pêl-droed yn yr ardd, beicio, sglefrfyrddio neu hyd yn oed fynd â’r ci am dro.
Yn syml, mae’n rhaid i blant barhau i fod yn weithgar a dod â’u dyddiadur gyda nhw i’w Canolfan Hamdden Leisure agosaf i gasglu eu taleb gwobr.
Gall rhieni gymryd rhan hefyd trwy annog eu plant a thrwy adolygu a llofnodi eu dyddiaduron.
Freedom Leisure sydd yn rhedeg Canolfannau Hamdden a Gweithgareddau Cyngor Wrecsam yng Nghanolfan Byd Dŵr, Y Waun, Queensway a Gwyn Evans.
Peidiwch ag anghofio nofio am ddim!
Os ydych chi’n chwilio am ffordd hawdd o lenwi’r gweithgareddau, neu os ydych chi’n chwilio am ffordd i ddianc o wres yr haf, mae sesiynau nofio am ddim yn cael eu cynnig i rai o Dan 16 yn ystod y gwyliau.
Mae rhestr lawn o sesiynau nofio am ddim yn ein pyllau ym Myd Dŵr, Y Waun a Gwyn Evans ar gael yma.
Mae pob sesiwn am ddim i rai o Dan 16 sydd â Cherdyn Hamdden dilys.
Cysylltwch â’r canolfannau unigol i sicrhau lle.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN