Mae’r lluniau trawiadol o blastigau yn difrodi moroedd y byd a ddarlledwyd gan dîm Blue Planet II ar eu pennod olaf wedi gwneud i’r rhan fwyaf ohonom fod am wneud mwy i ddiogelu’r amgylchedd.
Nid oedd blwyddyn un a dau yn Ysgol yr Hafod yn Johnstown yn wahanol a gwnaethant ddechrau edrych ar effaith plastigau ar yr amgylchedd a sut mae’n effeithio ar anifeiliaid a phobl. Roeddent hefyd am wybod beth oedd yn digwydd yn eu hardal eu hunain i helpu’r effaith mae plastigau yn ei chael ar ein hamgylchedd felly gwnaethant benderfynu cysylltu â’u cynghorydd lleol i gael gwybod mwy.
Gwnaeth eu cynghorydd lleol, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, drefnu ymweliad i Gyfleuster Ailgylchu Wrecsam a gaiff ei redeg gan CSFf ar yr Ystâd Ddiwydiannol. Pan oeddent yno, roeddent yn gallu gweld drostynt eu hunain faint o blastig gafodd ei gasglu a’i ailgylchu yn Wrecsam a sut gallent wneud eu rhan drwy ddefnyddio biniau ailgylchu pan oeddent ar gael.
Aeth Cyng David A Bithell, cynghorydd lleol Johnstown a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol, gyda’r plant a dywedodd ar ôl yr ymweliad: “Gwnaeth y plant fwynhau eu hunain yn fawr a hoffwn ddiolch i CSFf a’n staff ailgylchu ein hunain am eu help. Bydd dysgu am wastraff, ailgylchu a sut i reoli gwasanaeth cynaliadwy yn rhoi gwersi gwerthfawr iddynt ar gyfer y dyfodol a gobeithiaf y byddant yn mynd â’r rhain gyda nhw a’u defnyddio ar bob cyfle.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Mae hefyd yn galonogol gweld cwmnïau mawr yn dechrau cwestiynu eu defnydd o blastigau a gobeithiaf yn y dyfodol agos, y bydd symudiad cadarnhaol iawn gan y fasnach manwerthu i wneud newidiadau cynaliadwy i’w defnydd o blastig.”
Os oes unrhyw ysgol arall am wneud trefniadau i ymweld â’r ganolfan ailgylchu cysylltwch â John Walsh, 01978 729733 neu ebost john.walsh@wrexham.gov.uk
Bydd yr ymweliad yn rhad ac am ddim ond bydd rhaid i ysgolion dalu eu costau cludiant eu hunain. Bydd prinder o leoedd.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI