Bydd BBC Radio 4 yn darlledu ei raglen trafodaethau pynciol blaenllaw “Any Questions?” yn fyw o Tŷ Pawb ddydd Gwener 19 Gorffennaf.
Bob wythnos mae’r rhaglen yn ymweld â gwahanol ran o’r wlad gyda phanel o bedwar o siaradwyr sy’n ateb cwestiynau’r gynulleidfa. Mae’r rhaglen yn gyfle i bobl herio gwleidyddion, gwneuthurwyr polisïau, ysgrifenwyr a meddylwyr.
Ar hyn o bryd mae 1.59 miliwn o bobl yn gwrando ar y rhaglen bob wythnos.
Gallwch archebu eich lle nawr i fod yn rhan o gynulleidfa’r rhaglen!
- Mynediad trwy docyn yn unig
- Bydd y drysau yn agor am 6.30pm ac yn cau am 7.15pm
- Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n fyw rhwng 8pm a 9pm
- Mae croeso i aelodau’r gynulleidfa gyflwyno cwestiwn i’r panel ar unrhyw bwnc o’u dewis
- Bydd cardiau cwestiwn ar gael i’w llenwi ar y noson
- Ni chaniateir recordio na thynnu ffotograffau yn ystod y darllediad
- Mae’n rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
E-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Gallwch archebu tocynnau yma.
Cafodd rhaglen ‘Any Questions?’ ei darlledu am y tro cyntaf ddydd Gwener 12 Hydref 1948. Bob wythnos mae’n ymweld â gwahanol ran o’r wlad gyda phanel o bedwar o siaradwyr sy’n ateb cwestiynau’r gynulleidfa. Mae’r rhaglen yn gyfle i bobl herio gwleidyddion, gwneuthurwyr polisïau, ysgrifenwyr a meddylwyr.
Ar hyn o bryd mae 1.59 miliwn o bobl yn gwrando ar y rhaglen bob wythnos
Rhowch eich ymatebion i’r arolwg yma. Cymerwch ran rŵan
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Galwad Agored i artistiaid – Cyflwynwch eich gweithiau ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb