Bus pass renewal at your library

Llyfrau sy’n cael eu hadnewyddu yn y llyfrgell fel arfer, ond oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n gallu adnewyddu eich cerdyn bws yno hefyd?

Bydd yr hen fath o gerdyn bws yn dod i ben ar 29 Chwefror 2020 ac mae sesiynau arbennig yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Wrecsam i’ch arwain drwy’r broses o wneud cais am un newydd.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Ar 24 a 31 Ionawr, 2-3pm, bydd gwirfoddolwyr ar gael i’ch helpu chi, a’r cyntaf i’r felin fydd hi. Dewch â’ch cerdyn bws cyfredol a’ch Rhif Yswiriant Gwladol.

Methu dod i un o’r sesiynau yn y llyfrgell?

Sylwch na fydd Llyfrgell Wrecsam yn gallu eich helpu y tu allan i’r amseroedd hyn. Mae’r erthygl hon yn cynnwys fideo ddefnyddiol am wneud cais am eich cerdyn teithio rhatach.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN