Yn ddiweddar bu i ni fynychu lansiad y Gwobrau Busnes a Chymuned i’w cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn a gynhaliwyd yn Net World Sports ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.
Roedd nifer dda yn bresennol yn y lansiad gyda thua 200 o fusnesau lleol yn cael eu cynrychioli.
Categorïau’r gwobrau a gyhoeddwyd hyd yma:
- Busnes Gorau – Micro
- Busnes Gorau – Bach
- Busnes Gorau – Canolig
- Busnes Gorau – Mawr
- Gwobr Menter Gymdeithasol
- Gwobr Dechrau Busnes
- Gwobr Dargyfeirio a Chynhwysiant
- Gwobr Prentisiaeth
- Gwobr Prosiect Busnes Ysgol/Coleg
- Gwobr Busnes Gwyrdd
- Gwobr Cyfrifoldeb Cymdeithasol
- Gwobr Cynwysoldeb y Gymraeg
Bydd gwefan yn benodol ar gyfer y gwobrau yn fyw ddechrau Mai gyda mwy o fanylion ond yn y cyfamser gallwch anfon e-bost at: info@wrexhambca.com i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Mae Wrecsam ar siwrnai gyffrous. Rydym yn ddinas newydd, yn ail agos yn y cais i fod yn ddinas diwylliant a bydd hyn yn ychwanegiad cyffrous arall i hynny.
“Heblaw’r gliter Hollywood yn Wrecsam, mae gennym nifer o “sêr” yn ein cymunedau ein hunain yn amrywio o sefydliadau rhyngwladol sydd wedi dewis Wrecsam fel sylfaen i unig fasnachwyr, mentrau cymdeithasol, prentisiaethau a phrosiectau busnes ysgolion.
“Rydym yn falch o fod yn un o noddwyr y digwyddiad hwn a fydd yn dathlu a dangos y gorau o beth all busnesau Wrecsam ei gynnig.
“Roedd yn wych gweld cymaint o fusnesau lleol yn y lansiad a hoffwn ddiolch i Alex Lovén am ei gynnal a bod mor frwdfrydig tuag at y gwobrau.
Dywedodd Amy Chadwick, Cyfarwyddwr yn Net World Sport, “Roeddem yn falch o gynnal y seremoni wobrau gyntaf yma yn ein pencadlys newydd sbon ar 10 Tachwedd. Mae hyn yn ymwneud â dangos y gwaith gwych a wneir gan gymaint o fusnesau a phobl Wrecsam. Dod a phawb ynghyd i ddathlu a rhwydweithio fel un.
“Mae’r gwobrau yn fwy nag un noson yn unig, mae’n ymwneud â rhoi yn ôl i’r gymuned a cheisio creu newid er mwyn i bawb yn Wrecsam weld bod ganddynt gyfle.
“Mae’n ddigwyddiad nid er elw felly bydd 50% o’r “elw” yn cael ei roi’n ôl i elusennau lleol, a bydd y gweddill yn helpu i ariannu gwobrau’r flwyddyn nesaf a chynnal digwyddiadau yn arwain ato.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD