Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae preswylwyr Wrecsam yn cael galwadau ffôn ynghylch insiwleiddio’r atig – ai sgâm ydyw?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae preswylwyr Wrecsam yn cael galwadau ffôn ynghylch insiwleiddio’r atig – ai sgâm ydyw?
Arall

Mae preswylwyr Wrecsam yn cael galwadau ffôn ynghylch insiwleiddio’r atig – ai sgâm ydyw?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 11:45 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham residents are getting loft insulation telephone calls
RHANNU

Mae nifer o breswylwyr pryderus Wrecsam wedi dweud eu bod wedi cael galwadau ffôn gan fusnes sy’n honni i fod o’r ‘Llywodraeth Ganolog’ neu’r ‘Cyngor’ neu sefydliad arall.

Dywedodd y galwyr wrth y trigolion bod insiwleiddiad atig eu heiddo angen ei archwilio i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio ac nad yw’n llidus, gan gynnig anfon syrfëwr i wirio hyn yn defnyddio dull delweddu thermol.

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn credu bod hyn yn ymgais i fynd i mewn i eiddo i osod deunydd insiwleiddio newydd nad oes ei angen.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Ein cyngor

Dydi galw yn ddigroeso ddim yn arfer busnes da iawn. Mae Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy’n derbyn galwadau o’r fath i gymryd gofal, meddwl a ‘take five’ cyn ymateb neu gytuno i unrhyw beth.

Rydym ni hefyd yn eich cynghori i beidio â choelio popeth sy’n cael ei ddweud wrthoch chi na chytuno i ymweliad gan unrhyw un sy’n galw’n ddigroeso fel hyn. Peidiwch â rhoi’ch manylion personol ac os ydych chi’n amau unrhyw beth rhowch y ffôn i lawr a gwiriwch yr wybodaeth.

Os ydych chi’n meddwl bod yna broblem gydag insiwleiddiad eich atig, holwch aelod o’ch teulu neu ffrind am fasnachwr ag enw da. Anaml iawn y bydd masnachwr gonest yn galw’n ddigroeso, a bydd byth yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud unrhyw waith.

Cofiwch, peidiwch byth â rhoi manylion personol na manylion eich banc/cerdyn banc i unrhyw un sy’n galw’n ddigroeso.

Os hoffech chi gyngor am fathau gwahanol o dwyll neu os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am dwyll, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Aildanio Aildanio: Arddangosfa Gwobr Gelf 2022-23
Erthygl nesaf Net World Sports Cyhoeddi Gwobrau Busnes a Chymuned yn Net World Sports

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English