Yr wythnos hon, byddwn yn ymchwilio’n ddyfnach i fanteision amnewid goleuadau halogen gydag LEDs. Mae goleuadau LED wedi trawsnewid y busnes ynni gyda’u dylanwad buddiol a nodweddion rhagorol. Maent yn cynnig dewis amgen cynaliadwy i ddatrysiadau goleuo arferol. Mae goleuadau LED yn defnyddio hyd at 80% yn llai o ynni na bylbiau golau traddodiadol ac nid ydynt yn cynnwys deunyddiau niweidiol megis mercwri. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, fe allai amnewid eich bylbiau gydag LEDs leihau eich allyriadau carbon deuocsid o hyd at 50kg y flwyddyn, sy’n debyg i yrru eich car am 145 milltir. Fe allai newid i oleuadau LED hefyd arbed tua £45 y flwyddyn i chi ar eich bil ynni.
Can You Replace Your Halogen Bulbs With LED Bulbs? – Buildiro Magazine
Upgrading Spotlights | Replacing Halogen Bulbs With LED Lights (aspect.co.uk)
10 Benefits of LED Lighting on the Environment – Energy Theory