Yr wythnos hon, byddwn yn edrych yn fwy manwl ar nodweddion cadarnhaol ffenestri a drysau gwrth-ddrafft. Oni bai bod eich eiddo’n newydd, rydych yn siŵr o fod yn colli gwres drwy ddrafft o amgylch drysau a ffenestri, craciau yn y llawr neu’r simnai.
Gall gwneud ffenestri a drysau yn wrth-ddrafft, yn ogystal â llenwi craciau yn y lloriau a bordiau wal, arbed oddeutu £80 y flwyddyn i chi ar eich biliau ynni. Fe allai help arbenigwr gostio oddeutu £250, ond mae gwneud y gwaith eich hun yn llawer llai costus.
A guide to draught proofing – Mitchell & Dickinson (mitchellanddickinson.co.uk)