Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2026 2:48 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
RHANNU

Erthygl gwadd – Xplore!

Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn croesawu ymwelwyr yn ôl drwy ei drysau ar Stryd Henblas wrth i waith ar nifer o ddatblygiadau newydd cyffrous yn y ganolfan gyrraedd carreg filltir bwysig.

Gall ymwelwyr nawr fynd i mewn i’r ganolfan darganfod gwyddoniaeth sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam drwy fynedfa Stryd Henblas y ganolfan a phrofi llwybr sydd newydd ei drawsffurfio, ardal caffi newydd ac wedi’i wella, a siop gwyddoniaeth sydd wedi’i hadfywio.

Mae’r newidiadau’n rhan o gyfnod cyffrous o ddatblygiad ar gyfer Xplore!, gyda gwelliannau wedi’u cynllunio i wneud ymweliadau’n haws, yn ac yn fwy dymunol a hygyrch ar gyfer teuluoedd ac ymwelwyr o bob oedran.

Un o’r newidiadau mwyaf ar gyfer ymwelwyr yw trawsnewidiad y caffi. Mae’r caffi wedi’i adleoli’n llwyr a’i ailddylunio gyda gosodiad mwy ffres a modern, gan gynnwys bythau cyfforddus a lle mwy croesawgar i ymwelwyr gael ymlacio ynddo.

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Mae ailddatblygu’r lle yn digwydd yn rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer prosiect cyfalaf diweddaraf Xplore!, LaunchPAD, sef amgylchedd chwarae a dysgu thema’r gofod newydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer plant dan bump oed.

Wedi’i ariannu gan y Moondance Foundation, bydd LaunchPAD yn rhoi lle i ymwelwyr ieuengaf Xplore! i archwilio, chwarae a darganfod drwy brofiadau ymarferol wedi’u hysbrydoli gan ryfeddodau’r gofod.

Bydd LaunchPAD, y disgwylir iddo agor ym mis Mawrth 2027, yn ychwanegu dimensiwn arall i gynnig teuluol Xplore! a darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu drwy chwarae.

Gwneud Xplore! yn haws i archebu lle ynddi

Fel rhan o’r gwelliannau, mae Xplore! hefyd wedi gwneud newidiadau i’w system docynnau Planetariwm, gan ei wneud yn haws nag erioed i ymwelwyr gynllunio eu diwrnod.

Mae’r Planetariwm nawr wedi’i gynnwys o fewn y Tâl Mynediad Cyffredinol, sy’n golygu nad yw ymwelwyr bellach angen trefnu tocynnau mynediad a thocynnau Planetariwm ar wahân. Mae tocyn Mynediad Cyffredinol nawr yn cynnwys mynediad at arddangosfa ryngweithiol Xplore!, sioeau cyhoeddus a’r Planetariwm, gan greu profiad archebu tocynnau symlach a di-ffwdan.

Dywedodd Scot Owen, rheolwr canolfan Xplore!, “Roeddem ni’n teimlo’n llawn cyffro i weld y cam nesaf o’r datblygiad yn Xplore! yn mynd yn ei flaen. Mae’r llwybr, y caffi a’r siop ymysg rhai o’r newidiadau rydym yn ei wneud er mwyn gwella’r profiad ar gyfer ein hymwelwyr, gyda LaunchPAD yn llenwi lle newydd sbon i’n hymwelwyr ieuengaf y flwyddyn nesaf.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi gwneud ein profiad Planetariwm yn rhan o’r Tâl Mynediad Cyffredinol, gan ei gwneud hi hyd yn oed yn haws i deuluoedd fwynhau popeth sydd gan Xplore! i’w gynnig.” 

Gyda mynedfa Stryd Henblas nawr ar agor, a chaffi a llwybr newydd i’w harchwilio, system archebu tocynnau Planetariwm a LaunchPad haws ar y gorwel, mae Xplore! yn dechrau pennod newydd – un sy’n adlewyrchu uchelgais ac egni Wrecsam sy’n paratoi ar gyfer ei dyfodol fel Dinas Diwylliant y DU 2029.

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Delwedd gan AC Creative

I archebu eich taith nesaf, ewch i wefan Xplore.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gresford memorial wheel Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Pobl a lle

Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English