Bydd y Bws Dementia yng Ngwersyllt ar Ebrill 24 i roi cyfle i bobl ddarganfod sut beth yw byw gyda dementia.
Dyfeisiwyd y Daith Dementia Rithwir tua 30 mlynedd yn ôl a dyma’r unig ffordd gwyddonol a meddygol profedig o roi syniad i rywun ag ymennydd iach o sut beth yw bod a dementia ac yna newid yr amgylchedd a’u dulliau ymarfer mewn ymateb i hynny
“Gwella Safonau”
Drwy gerdded yn esgidiau rhywun â dementia, gallwch ddechrau deall y problemau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd. Byddwch yn profi teimlo’n ddryslyd, yn ynysig, ar goll, yn ofnus ac yn fregus a llawer mwy a thrwy hynny byddwch yn dechrau ddeall beth y mae angen i chi ei newid i wella ansawdd gofal.
Bydd y bws yn Eglwys Gynulleidfaol Gwersyllt ar Ebrill 24 a gallwch fynd ar y daith ar yr adegau canlynol:
9.15–11.45am
12.15–2.45pm
3.00–5.15pm
Rhaid bwcio lle felly i wneud hynny anfonwch e-bost neu ffoniwch 01978 292066
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN