Os yw eich plant yn mwynhau prydau ysgol, dyma awgrym defnyddiol…
Os ydych chi wedi cael llond bol ar orfod chwilio am y fwydlen ar-lein, neu os ydych chi byth yn gallu dod o hyd i’r copi papur(!), gallwch ei e-bostio yn syth i’ch blwch e-bost.
Pan fyddwch wedi tanysgrifio, byddwch yn derbyn y fwydlen bob dydd Sul am 3:30pm… felly gallwch weld beth fydd ar gael dros yr wythnos nesaf.
Mae tair bwydlen – ‘wythnos un’, ‘wythnos dau’ ac ‘wythnos tri’ – ac rydyn ni’n ailddefnyddio’r rhain fesul tair wythnos.
Ar ôl pob gwyliau ysgol, ‘wythnos un’ fydd y fwydlen ar yr wythnos gyntaf yn ôl bob tro.
Bwyd da
Rydyn ni’n darparu amrywiaeth dda o ddewisiadau bwyd yn ein hysgolion.
Er tawelwch meddwl i chi, bydd prydau eich plentyn yn llawn maeth ac yn cynnwys sawl grŵp bwyd a byddant yn cyrraedd y safonau sydd wedi’u gosod ar gyfer Cymru gyfan.
Bwyd da i blant ar eu prifiant 🙂
Fel mae pob rhiant yn gwybod, gall fod yn anodd darparu bwyd mae plant yn ei fwynhau, gan hybu tueddiadau bwyta da ar yr un pryd.
Ond mae ein staff arlwyo ni’n dda iawn am ddod o hyd i’r cydbwysedd, ac rydyn ni hefyd yn darparu dewisiadau llysieuol pob dydd, sy’n boblogaidd iawn.
Felly, beth am gofrestru i dderbyn e-bost o’r fwydlen yn syth i’ch blwch e-bost… a gweld beth rydyn ni’n ei weini?
IA! ANFONWCH Y FWYDLEN ATA’ I AR E-BOST