Mae tirnod newydd arbennig wedi cyrraedd Rhodfa San Silyn, wedi’i noddi gan gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 ac fel rhan o Gystadleuaeth Cymru, ac Prydain yn ei Blodau.
Gyda diolch i Glwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam, rhoddwyd caniatâd i ni ddefnyddio arwyddlun y clwb fel rhan o arddangosfa flodau/gwaith celf cyhoeddus.
Mae’r gwaith celf yn mesur 5.75 metr ar draws ac mae’n cynnwys planhigion Ajuga Chip siocled, Sempervivum Gwyrdd ac Sedum Spurium ‘Gwaed Draig.’
Enillodd Wrecsam wobr aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau 2023, ac mae’r gwaith hwn yn rhan o’r paratoadau ar gyfer beirniadu 2024- rydym wedi’n gwahodd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau hefyd, gan gystadlu yn erbyn Llundain a Dundee!
Eleni bydd y daith feirniadu yn galw mewn sawl lleoliad a gerddi gan gynnwys Amlosgfa Wrecsam, Canolfan Ailgylchu Wrecsam, Gardd Furiog Erlas, Ysgol Uwchradd Rhosnesni a Chanol Dinas Wrecsam.
Rydym yn gofyn i drigolion a grwpiau cymunedol ar y llwybr am eu cymorth gyda hyn. Y llynedd roedd grwpiau yn codi sbwriel, cynnal cystadlaethau garddio a phlannu ardaloedd a basgedi crog i wella eu hardal.
Nod y cystadlaethau yw gwneud Wrecsam yn ecogyfeillgar trwy ddileu graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a hyrwyddo plannu cynaliadwy ac arddangosfeydd blodau i wneud Wrecsam yn le harddach i fyw ac ymweld ag ef.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag Ymgyrch Prydain yn ei Blodau a Chymru yn ei Blodau neu os hoffech noddi cylchfan neu blanwr cysylltwch â Nicola Ellis ar 01978 729638 neu e-bost nicola.ellis@wrexham.gov.uk.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio:
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r clwb am ganiatáu i ni ddefnyddio eu harwyddlun. Rydym yn hynod o falch o’n clwb ac mae’n rhan fawr o bwy ydym yn Wrecsam.
Nawr fod yr arwyddlun yn ei le, bydd yn ychwanegiad gwych i ganol y ddinas ac rwy’n siŵr yn ffefryn cadarn ar y llwybr twristiaid i gefnogwyr lleol a rhyngwladol ac edrychaf ymlaen at weld eu ‘hunluniau’ yn y dyfodol.
Ar ôl ennill gwobr Aur a chael gwobr ‘gorau yn y categori’ y llynedd, rwy’n falch iawn ein bod yn mynd amdani eto eleni er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda phrosiectau cyffrous newydd fel hwn yn ogystal â’n harddangosfeydd canol dinas lliwgar a chylchfannau blodau gwyllt ac rwy’n annog cymunedau lleol, busnesau ac ysgolion i ymuno a chymryd rhan ym mha bynnag ffordd bosibl.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Dinas Diwylliant Cyngor Wrecsam: “Mae llawer o waith cyffrous yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer ein cais y flwyddyn nesaf i fod yn Ddinas Diwylliant 2029 a byddwn yn rhannu manylion am hyn dros y misoedd nesaf. Rwyf wrth fy modd bod tîm y cais yn gallu ariannu’r arddangosfa gyhoeddus hon y bydd preswylwyr, ymwelwyr a pheillwyr Wrecsam yn ei mwynhau.”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Bydd tîm yr amgylchedd yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein mannau agored yn edrych cystal â phosibl er mwyn i ni i gyd eu mwynhau.
“Rwy’n annog pawb i gymryd rhan wrth i ni weithio tuag at sicrhau bod Wrecsam yn amgylchedd croesawgar i ni sy’n byw yma, ac i ymwelwyr.”