Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2024 6:23 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun 'enfawr' diweddaraf Wrecsam!
RHANNU

Mae tirnod newydd arbennig wedi cyrraedd Rhodfa San Silyn, wedi’i noddi gan gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 ac fel rhan o Gystadleuaeth Cymru, ac Prydain yn ei Blodau.

Gyda diolch i Glwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam, rhoddwyd caniatâd i ni ddefnyddio arwyddlun y clwb fel rhan o arddangosfa flodau/gwaith celf cyhoeddus.

Mae’r gwaith celf yn mesur 5.75 metr ar draws ac mae’n cynnwys planhigion Ajuga Chip siocled, Sempervivum Gwyrdd ac Sedum Spurium ‘Gwaed Draig.’

Enillodd Wrecsam wobr aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau 2023, ac mae’r gwaith hwn yn rhan o’r paratoadau ar gyfer beirniadu 2024- rydym wedi’n gwahodd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau hefyd, gan gystadlu yn erbyn Llundain a Dundee!

Eleni bydd y daith feirniadu yn galw mewn sawl lleoliad a gerddi gan gynnwys Amlosgfa Wrecsam, Canolfan Ailgylchu Wrecsam, Gardd Furiog Erlas, Ysgol Uwchradd Rhosnesni a Chanol Dinas Wrecsam.

Rydym yn gofyn i drigolion a grwpiau cymunedol ar y llwybr am eu cymorth gyda hyn. Y llynedd roedd grwpiau yn codi sbwriel, cynnal cystadlaethau garddio a phlannu ardaloedd a basgedi crog i wella eu hardal. 

Nod y cystadlaethau yw gwneud Wrecsam yn ecogyfeillgar trwy ddileu graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a hyrwyddo plannu cynaliadwy ac arddangosfeydd blodau i wneud Wrecsam yn le harddach i fyw ac ymweld ag ef.

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag Ymgyrch Prydain yn ei Blodau a Chymru yn ei Blodau neu os hoffech noddi cylchfan neu blanwr cysylltwch â Nicola Ellis ar 01978 729638 neu e-bost  nicola.ellis@wrexham.gov.uk.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio:

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r clwb am ganiatáu i ni ddefnyddio eu harwyddlun. Rydym yn hynod o falch o’n clwb ac mae’n rhan fawr o bwy ydym yn Wrecsam.

Nawr fod yr arwyddlun yn ei le, bydd yn ychwanegiad gwych i ganol y ddinas ac rwy’n siŵr yn ffefryn cadarn ar y llwybr twristiaid i gefnogwyr lleol a rhyngwladol ac edrychaf ymlaen at weld eu ‘hunluniau’ yn y dyfodol.

Ar ôl ennill gwobr Aur a chael gwobr ‘gorau yn y categori’ y llynedd, rwy’n falch iawn ein bod yn mynd amdani eto eleni er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda phrosiectau cyffrous newydd fel hwn yn ogystal â’n harddangosfeydd canol dinas lliwgar a chylchfannau blodau gwyllt ac rwy’n annog cymunedau lleol, busnesau ac ysgolion i ymuno a chymryd rhan ym mha bynnag ffordd bosibl.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Dinas Diwylliant Cyngor Wrecsam: “Mae llawer o waith cyffrous yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer ein cais y flwyddyn nesaf i fod yn Ddinas Diwylliant 2029 a byddwn yn rhannu manylion am hyn dros y misoedd nesaf. Rwyf wrth fy modd bod tîm y cais yn gallu ariannu’r arddangosfa gyhoeddus hon y bydd preswylwyr, ymwelwyr a pheillwyr Wrecsam yn ei mwynhau.”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Bydd tîm yr amgylchedd yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein mannau agored yn edrych cystal â phosibl er mwyn i ni i gyd eu mwynhau.

“Rwy’n annog pawb i gymryd rhan wrth i ni weithio tuag at sicrhau bod Wrecsam yn amgylchedd croesawgar i ni sy’n byw yma, ac i ymwelwyr.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Cael dweud eich dweud ar y diweddariadau arfaethedig i drefniadau traffig yng nghanol dinas Wrecsam
Erthygl nesaf Plastic Free July - reusable water bottle Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English