Roedd y dyddiad gwreiddiol ar gyfer cyflwyno ffi flynyddol y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ym mis Ebrill, ond gohiriwyd y ffi o ganlyniad i’r Coronafeirws, a byddwn yn ei ailgyflwyno ddydd Llun, 31 Awst.
O ganlyniad i’r cyfnod clo, penderfynom barhau i wagio biniau gwastraff gardd o fis Ebrill gan y bu’n rhaid cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn sgil y cyfyngiadau mewn perthynas â theithio diangen.
Bydd y ffi yn aros yr un fath – £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd. Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 31 Awst, ni fyddwn yn casglu eich biniau gwastraff gardd mwyach.
Os ydych eisoes wedi talu am y gwasanaeth gwastraff gardd, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth
Os ydych chi eisoes wedi talu am y gwasanaeth yn gynharach yn y flwyddyn, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth …. byddwch yn derbyn gwasanaeth llawn am 12 mis tan 31 Awst, 2021.
A fyddech cystal ag arddangos y sticer wreiddiol a anfonwyd atoch ar y bin gan na fyddwn yn anfon rhai newydd allan (peidiwch â phoeni os nad yw’r dyddiad contract ar y sticer yn gywir bellach, byddwn yn parhau i gasglu eich bin(iau) tan 31 Awst, 2021).
Nid ar chwarae bach y daethpwyd i’r penderfyniad o gyflwyno’r ffi hon, roedd y toriadau i lywodraeth leol yn golygu nad oedd gennym ni unrhyw ddewis ond ymuno â chynghorau eraill drwy godi tâl am y gwasanaeth dewisol hwn.
“£25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws, penderfynwyd oedi’r gwasanaeth gwastraff gardd taladwy gan fod y cyfyngiadau’n golygu nad oedd modd defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gan eu bod nhw bellach wedi ailagor, rydym wedi penderfynu dechrau’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd taladwy o ddydd Llun, 31 Awst.
“Bydd y pris yn aros yr un fath – £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd – dyma’r pris rhataf oeddem ni’n gallu ei gynnig, a dyma un o’r prisiau rhataf yng Nghymru a Lloegr.
“Bydd unrhyw un sydd eisoes wedi talu am y gwasanaeth yn gynharach yn y flwyddyn yn derbyn gwasanaeth llawn 12 mis o’r dyddiad dechrau newydd.”
Nid wyf wedi talu am y gwasanaeth gwastraff gardd ond rwy’n awyddus i gofrestru
Rydym yn disgwyl y byddwn yn gallu derbyn taliadau newydd yn fuan, ond nid ydym wedi derbyn dyddiad ar gyfer hyn eto. Byddwn yn cysylltu â chi drwy ein blog newyddion a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol gyda rhagor o fanylion unwaith y byddwn wedi eu derbyn. Y ffordd symlaf o dalu’r ffi yw ar-lein ar amser sy’n gyfleus i chi. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd modd i chi ffonio’r ganolfan gyswllt i dalu â cherdyn. Bydd cwsmeriaid newydd yn derbyn sticer newydd a fydd yn nodi fod y contract yn dod i ben ar 31 Awst, 2021.
Nid oes arnaf eisiau bin gwastraff gardd mwyach
Os nad oes arnoch chi eisiau’r bin gwastraff gardd mwyach, fe wnawn ni ei gasglu. Ewch ar-lein i FyNghyfrif a gallwch naill ai fewngofnodi neu gofrestru i ofyn i ni ei gasglu. Byddwn yn ei gasglu, ond ni fyddwn yn gallu gwneud hyn ar unwaith, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda. Os byddwch yn newid eich meddwl yn y dyfodol ac yn dymuno talu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd, bydd yn rhaid i chi brynu bin newydd os ydych chi eisoes wedi anfon eich bin gwyrdd yn ôl.
Nid oes arnaf eisiau talu ond hoffwn gadw fy min gwastraff gardd
Mae hynny’n iawn. Gallwch ddal eich gafael arno os hoffech chi, ond ni fyddwn yn ei wagio. Os byddwch yn penderfynu talu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn y dyfodol, ni fydd yn rhaid i chi dalu am fin gwyrdd newydd chwaith.
Gobeithiwn y byddwch yn parhau i dderbyn gwasanaeth casglu gwastraff gardd gennym ni gan ein bod yn awyddus i weld cyfraddau ailgylchu Wrecsam yn parhau i gynyddu am flynyddoedd, ond mae pethau’n anodd, ac rydym yn deall os nad ydych yn dymuno talu am y gwasanaeth.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN