Bydd cais i aelwydydd ar draws Wrecsam gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021 y gwanwyn hwn.
Mae’r cyfrifiad a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ddigwyddiad unwaith ym mhob degawd sy’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir am y bobl a’r aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi ei gynnal bob deng mlynedd ers 1801 ag eithrio 1941.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i annog nifer uchel o bobl i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021. Nid oes unrhyw beth arall sy’n rhoi gymaint o fanylion am y gymdeithas rydym ni’n byw ynddi, gan helpu i wneud penderfyniadau gyda’r potensial o drawsnewid bywydau er gwell. Rydym yn annog preswylwyr Wrecsam yn gryf i gymryd rhan.”
Mae deall anghenion y genedl yn helpu pawb, o’r llywodraeth yn ganolog i sefydliadau megis cynghorau ac awdurdodau iechyd, i gynllunio’r dyfodol ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr. Mae canlyniadau cyfrifiad yn rhoi gwybod ble y dylid gwario miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ar wasanaethau fel cludiant, addysg ac iechyd – ar lwybrau beicio, ysgolion a meddygfeydd deintyddol.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae gwybodaeth o’r cyfrifiad hefyd yn bwysig i helpu nifer o bobl a sefydliadau eraill i wneud eu gwaith.
Mae elusennau a sefydliadau gwirfoddol yn ei ddefnyddio’n aml fel tystiolaeth i gael arian. Mae’n helpu busnesau i ddeall eu cwsmeriaid a phenderfynu, er enghraifft, ble i agor siopau newydd. Yn ogystal, bydd y rhai sy’n gwneud ymchwil, fel myfyrwyr prifysgol a phobl yn ymchwilio i hanes eu teulu yn defnyddio data cyfrifiad. Mae’n rhoi gwybodaeth bwysig ynglŷn ag amrywiaeth o fewn y boblogaeth, gan ganiatáu i sefydliadau wybod a ydyn nhw’n bodloni eu cyfrifoldebau ac arwain at gamau lle bo angen.
Cyfrifiad 2021 fydd y cyntaf i’w gynnal yn bennaf ar-lein, gydag aelwydydd yn derbyn llythyr gyda chod mynediad unigryw, sy’n caniatáu iddynt gwblhau’r holiadur ar eu cyfrifiaduron, ffonau neu dabled.
“Mae’r cyfrifiad yn rhoi cipolwg unigryw o’n cymunedau,” meddai Iain Bell, dirprwy ystadegydd cenedlaethol gydag ONS. “Mae o fudd i bawb. Yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddir, mae’n sicrhau fod miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, llefydd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, gwasanaethau meddygon teulu a deintyddion.
“Ni ddylai unrhyw un golli’r cyfle. Gall pawb ei gwblhau ar-lein gyda chyfleuster newydd chwilio-wrth-deipio a ffurflenni papur i’r rhai sydd eu hangen.”
Mae’r cyfrifiad yn digwydd bob 10 mlynedd. Gofynnir i bod aelwyd yn ein hardal gymryd rhan. Darganfyddwch fwy am yr hyn mae’r cyfrifiad yn ei olygu i chi yn https://t.co/szLZBGg8K1 neu dilynwch @Cyfrifiad2021 pic.twitter.com/3o5ZRy8WJi
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) February 6, 2021
Diwrnod y cyfrifiad fydd 21 Mawrth, ond cyn bo hir, bydd aelwydydd yn derbyn llythyrau gyda chod ar-lein yn egluro sut y gallant gymryd rhan. Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, oed, gwaith, iechyd, addysg, maint eich aelwyd a’ch ethnigrwydd. Ac am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn holi pobl a ydyn nhw wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i rai 16 oed a hŷn ynglŷn â’u cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth o ran rhywedd.
Yng Nghymru, gofynnir cwestiwn penodol i aelwydydd ynglŷn â’u sgiliau gyda’r Gymraeg. A gall y rhai sy’n dymuno llenwi’r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar-lein ac ar bapur. Mae botymau “Cymraeg” a “Saesneg” yn newid rhwng ieithoedd unrhyw bryd ar-lein, ac ar bapur gallwch ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un ffurflen.
Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, er y bydd cofnodion personol wedi eu cadw dan glo am 100 mlynedd, yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth a chyngor ynglŷn ag ateb y cwestiynau, ewch i census.gov.uk
CANFOD Y FFEITHIAU