Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd strategaeth newydd yn nodi “oes newydd” ar gyfer pêl-droed llawr gwlad yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Bydd strategaeth newydd yn nodi “oes newydd” ar gyfer pêl-droed llawr gwlad yn Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Bydd strategaeth newydd yn nodi “oes newydd” ar gyfer pêl-droed llawr gwlad yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 2, 2019 3:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Be Active Wales
RHANNU

Mae dadl gref mai Wrecsam yw cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru.

Mae gennym ni, ynghyd â phartneriaid allweddol gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu proffil pêl-droed yn Wrecsam yn sylweddol.

Mae’r cynlluniau hynny’n cynnwys

  • Gwella porth Ffordd yr Wyddgrug sy’n arwain i mewn i’r dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r Cae Ras;
  • Canolfan datblygu pêl-droed newydd ym Mharc y Glowyr;
  • Cynlluniau – trafodwyd yn ddiweddar gan Gynulliad Cymru – i ddatblygu Amgueddfa Pêl‑droed Cenedlaethol yn Wrecsam;
  • Gwaith gan y Cyngor a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer cae hyfforddi

Yn ogystal â’r cynlluniau uchod, byddwn hefyd yn edrych ar strategaeth a fydd yn ein gweld yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru i edrych ar gynlluniau ar gyfer canolfannau pêl-droed cymunedol newydd ar draws y fwrdeistref sirol.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Ym mis Ionawr, bydd ein Bwrdd Gweithredol yn edrych ar gynigion i sefydlu prosiect peilot ar gyfer dwy ganolfan bêl-droed cymunedol newydd – un yn ne’r fwrdeistref sirol ac un yn y gorllewin – a fydd yn ein gweld ni a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru yn gweithio’n agos gyda chlybiau lleol, ysgolion a’u cyrff llywodraethu i wella caeau a chyfleusterau.

Rydym yn arbennig o awyddus i greu cysylltiadau rhwng disgyblion ysgol a datblygu timau pêl-droed ieuenctid y tu allan i oriau ysgol, gan ddefnyddio cyfleusterau ysgol a gweithio ochr yn ochr â “chlystyrau” o glybiau a darparwyr.

Mae’r cynlluniau hyn yn dilyn ein hadolygiad o sut rydym yn rheoli caeau pêl-droed a chyfleusterau ystafelloedd newid yn ôl yng ngwanwyn 2017, ac wedi hynny gwnaethom benderfynu edrych ar ffyrdd newydd a gwell o reoli a datblygu pêl-droed llawr gwlad yn y fwrdeistref sirol.

Caiff y cynigion eu trafod gan y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth, 8 Ionawr.

Os cânt eu cymeradwyo gan y Bwrdd, byddai’r prosiect peilot – wedi’i gefnogi gan £50,000 gan Lywodraeth Cymru – yn rhedeg am flwyddyn, ac wedyn cael ei asesu i weld pa mor llwyddiannus oedd model y ganolfan.

Prif nod y bartneriaeth fyddai helpu clybiau i fod yn fwy hunangynhaliol, gwella cyfleusterau cymunedol a rhoi cyfle a chyfleusterau i bobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen arnynt i wella eu hiechyd.

Ond rhai o’r elfennau penodol y byddwn yn edrych arnynt yn fanwl yw:

  • Modelau rheoli cae a phafiliwn newydd i’r clwb
  • Gwella modelau safleoedd ysgol – sicrhau caeau o ansawdd gwell ar gyfer datblygu chwaraeon, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc a merched
  • Rhagor o gaeau 3G addas i’r diben
  • Gweithredu dull rheoli asedau o ran mannau awyr agored

Ond byddwn yn dal i gynnal a chadw ac archebu caeau fel arfer, a byddwn yn parhau i gysylltu gyda phob clwb pêl-droed i weld sut gallwn eu helpu i ddatblygu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham council news, nursery applications 2019, Wrexham schools, Wrexham nurseries Gellir gwneud ceisiadau ysgol feithrin ar gyfer Medi 2019 rŵan!
Erthygl nesaf Y Bwrdd Gweithredol i ystyried dyfodol safle Erlas Y Bwrdd Gweithredol i ystyried dyfodol safle Erlas

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English