Yma yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchwyr balch, a dyna sydd wedi ein gwneud yn drydedd genedl ailgylchu orau’r BYD. Ond rydyn ni am wneud yn well fyth. A byddwn yn hoelio ein sylw ar wastraff bwyd.
Mae cost yn perthyn i wastraff bwyd
Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod mai i’r cadi bach pwrpasol mae gwastraff bwyd i fod i fynd, a bod arolwg gan WRAP wedi datgelu bod 90% yn cytuno na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, y ffaith yw mai bwyd yw chwarter cynnwys ein biniau sbwriel o hyd.
Nid yn unig mae’r holl fwyd hwn na chafodd ei fwyta yn gyfanswm o 110,000 o dunelli o wastraff y flwyddyn – sy’n cyfateb i lond 3,300 o fysiau deulawr – mae hefyd yn costio £49 y mis i’r aelwyd gyfartalog. Ydi, mae’n wir – drwy frwydro gwastraff bwyd, rydych chi’n rhoi hwb i’ch poced yn ogystal â helpu’r blaned! A gyda 75% ohonom yn poeni am gostau byw ar hyn o bryd, mae’n sicr yn beth gwerth chweil i’w wneud.
Rhowch her i chi’ch hun o wneud i’ch bwyd fynd ymhellach drwy:
● Ddefnyddio’r holl fwyd rydych chi’n ei brynu
● Ailgylchu’r pethau na ellir eu bwyta
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn falch o ychwanegu ein cefnogaeth ein hunain i’r Ymgyrch Ailgylchu Be Mighty, a byddwn yn rhannu gwybodaeth sy’n dangos sut y gallwch ostwng eich gwastraff bwyd eich hun, sut y gellir ailgylchu bwyd anfwytadwy, yn ogystal â chynnig cyngor ar wneud y mwyaf o’r bwyd rydych yn ei brynu. Gall y newidiadau bach a wnawn wneud gwahaniaeth mawr, felly cymerwch ran yn y fenter ailgylchu hon.”
Gwella prydau bwyd gyda’r bwydydd sydd dros ben yn yr oergell
Dim ots pa mor ofalus rydyn ni’n cynllunio, weithiau mae pethau annisgwyl yn digwydd ac mae’n rhaid inni feddwl ar ein traed i sicrhau nad oes dim yn cael ei wastraffu. Meddyliwch am hyn fel her greadigol a’i ddefnyddio fel esgus i ddyrchafu eich prydau bwyd mewn chwinciad!
Er enghraifft, beth am wneud omled yn well fyth drwy ychwanegu cig a llysiau sydd angen eu defnyddio, neu greu tosti caws mwy epig fyth drwy ychwanegu’r olaf o’r sleisys ham? Mae ffrwythau goraeddfed yn ffordd wych o roi hwb i flas a gwerth maethol eich uwd, iogwrt a smwddis. Blasus, iachus, sydyn, arbed arian – dyna rysáit ddelfrydol!
Bydd Wych – mae’n hawdd!
Dilynwch y tips gwych hyn ac fe welwch fod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac yn lanach na’i roi yn y bin, mewn gwirionedd.
• Ddefnyddio bag leinio cadi
• Ei wagio’n rheolaidd
• Osgoi hylifau
• Ei lanhau’n dda gyda hylif glanhau bob cwpl o wythnosau
Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?
Beth sy’n mynd i mewn i’ch cadi bwyd?
Os hoffech gael eich atgoffa o’r hyn y dylech ei roi yn eich cadi, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.
Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddech chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:
o Bwydydd sydd dros y dyddiad
o Esgyrn a charcasau
o Plisgyn wyau
o Bagiau te
o Croen banana (a philion eraill)
o Canol afalau
o Coffi mân
o Bwydydd amrwd
o Bwydydd sydd wedi llwydo
o Crafion platiau
o Prydau parod heb eu bwyta
o Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
o Pysgod cregyn
Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd ydi hylifau (fel olew neu lefrith), pecynnau, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.
Helpwch ni i wneud yn well, a dysgwch fwy trwy fynd i www.wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu
Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam