Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd ysgolion yn Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Bydd ysgolion yn Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)
Busnes ac addysgY cyngor

Bydd ysgolion yn Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 15, 2021 5:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Online learning
RHANNU

Bydd ysgolion ledled Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun nesaf (20 Rhagfyr) i helpu i gadw pawb yn ddiogel wrth nesáu at y Nadolig.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid yn y fwrdeistref sirol ac ar draws y rhan fwyaf o’r DU, gyda nifer o blant a phobl ifanc yn gorfod ynysu.

Hefyd mae posibilrwydd y bydd cadw ysgolion ar agor yr wythnos nesaf yn golygu mwy o bobl yn dal y feirws ac yn gorfod ynysu dros y Nadolig – a fyddai’n cael effaith anferth ar nifer o deuluoedd a chymunedau lleol.

O ganlyniad, gwnaed y penderfyniad i symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun am ddiwrnodau olaf y tymor.

Bydd ysgolion yn darparu dysgu ar y safle i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol ble fo angen, ond gofynnir i rieni ond ddewis hyn os nad oes ganddynt unrhyw ofal plant arall ar gael.

Cyfnodau anodd

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:

“Mae’r cyngor ac ysgolion yn bryderus ynglŷn â’r cynnydd mewn achosion o Covid, a’r effaith posib y gall hyn ei gael ar bobl dros y Nadolig – felly ymddengys yn ddoeth i symud i ddysgu o bell am ddiwrnodau olaf y tymor.

“Rydym yn cydnabod pa mor bryderus yw’r sefyllfa, ac eisiau sicrhau rhieni bod y cyngor ac ysgolion wedi ymrwymo’n llwyr i gynnig y ddarpariaeth ddysgu orau y gallant o dan yr amgylchiadau anodd hyn.

“Gobeithiwn y bydd pawb yn deall pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad hwn a hoffwn ddiolch i rieni a gofalwyr am eu cefnogaeth barhaus.

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu profiadau dysgu diogel o safon y tymor hwn – maent wedi gwneud gwaith anhygoel, ac mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein hysgolion cyn gymaint â phosib.”

Mae ysgolion wedi bod yn cysylltu â rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol i’w hysbysu ynglŷn â’r newid i ddysgu ar-lein, a byddwn yn diweddaru rhieni cyn y tymor newydd yn Ionawr.

Rhannu
Erthygl flaenorol Byddwch yn Wych a pharhewch i ailgylchu'r Nadolig hwn Byddwch yn Wych a pharhewch i ailgylchu’r Nadolig hwn
Erthygl nesaf Dynamic Signing Sensations Choir Pob arwydd yn pwyntio at y Nadolig diolch i gôr gwefreiddiol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English