Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pob arwydd yn pwyntio at y Nadolig diolch i gôr gwefreiddiol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pob arwydd yn pwyntio at y Nadolig diolch i gôr gwefreiddiol
Pobl a lle

Pob arwydd yn pwyntio at y Nadolig diolch i gôr gwefreiddiol

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 15, 2021 4:48 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Dynamic Signing Sensations Choir
RHANNU

Roedd Wrecsam yn disgleirio o hapusrwydd Nadoligaidd yr wythnos ddiwethaf pan ddychwelodd digwyddiad poblogaidd i’r dref ond gyda thalent  lleol  gwefreiddiol newydd sbon yn ychwanegu at yr hwyl.

Cynnwys
  • Pethau Mawr ar y Gorwel
  • Lledaenu Lawenydd y Tymor
  • Sêl Bendith Dinesig
  • Diwrnod caled o ganu
  • Pethau Mwy i Ddod

Ddydd Iau dychwelodd y Farchnad Fictoraidd hynod boblogaidd Wrecsam sy’n cae ei chynnal ar hyd strydoedd canol y dref ac yn darfod yn Eglwys San Silyn.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Eleni cafwyd ymweliad gan y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Brian Cameron i weld beth oedd ar gael ac i  ymgolli yn yr awyrgylch bendigedig.  Pan oedd o yno, ynghyd â gweddill y gynulleidfa, cafodd wledd o gerddoriaeth gan dalent ifanc o Wrecsam.

Pethau Mawr ar y Gorwel

Yn ddiweddar ffurfiodd  y ganolfan plant a phobl ifanc leol, Dynamic eu côr iaith arwyddion eu hunain –  Dynamic Signing Sensations, a syfrdanwyd cynulleidfaoedd o bob oed â’u perfformiad agoriadol.

Roedd y sioe yn cynnwys cymysgedd twymgalon o garolau traddodiadol a chaneuon Nadolig o frig y siartiau dros y blynyddoedd. Arwyddodd y plant a’r bobl ifanc y geiriau i hen ffefrynnau fel 12 Dydd Nadolig a Merry Christmas Everyone gan y bytholwyrdd Noddy Holder a Slade. Fe wnaeth y côr talentog sicrhau bod rhywbeth i bawb a gadawyd y dyrfa’n gweiddi am fwy.

Lledaenu Lawenydd y Tymor

Rhoddodd y côr wên ar wynebau pawb a oedd yn ddigon ffodus i’w gweld nhw, ac roedd bwcedi casglu arian yn mynd o gwmpas y dorf gyda’r holl elw’n mynd i Eglwys San Silyn, a oedd yn gefndir ar trawiadol i’r perfformiad gwefreiddiol.

Sêl Bendith Dinesig

Roedd y Dirprwy Faer wedi syfrdanu a’i blesio gan y perfformiad ac fe wnaeth mwynhad a phleser amlwg y plant argraff fawr arno.

Meddai’r Cynghorydd Cameron: “Mi wnes i fwynhau bob eiliad o berfformiad cyntaf erioed y Dynamic Singing Sensations.

“Roedd yn gwbl amlwg i bawb gymaint o waith caled aeth i mewn i’r sioe a bod hynny wedi talu ar ei ganfed.  Roedd pob un ohonyn nhw yn anhygoel ac fe ddylai Wrecsam fod yn falch iawn ohonyn nhw, felly llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o hyn .”

Diwrnod caled o ganu

Mae’r côr, sy’n cael ei arwain gan Emma Jones ac Amy Pritchard, wedi gweithio’n ddiflino i fireinio eu perfformiad.

Meddai Amy: “Gweithiodd y plant yn hynod o galed ar gyfer hyn ac roedden nhw’n wirioneddol ddisgleirio, a dwi isio dweud pa mor falch ydw i ohonyn nhw, a da iawn bob un wan jac ohonynt ”.

Roedd gan Emma hefyd glod uchel i’r sêr newydd lleol: “Ar ôl wythnosau o baratoi rhoddodd y côr bopeth i’w perfformiad  ac fe ddylen  nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u ffrindiau deimlo’n falch dros ben. ‘Da ni mor hapus drosoch chi yma yn Dynamic, da iawn chi”.

Pethau Mwy i Ddod

Hefyd yn bresennol roedd Laura Williams, rheolwr elusen Dynamic, a ddywedodd: “Rydym ni mor falch o Amy, Emma a’r holl bobl ifanc a gymerodd ran yn y perfformiad yn Eglwys San Silyn a’r Farchnad Nadolig Fictoraidd.  Cawsom sioe anhygoel ganddyn nhw ac roedd hi mor braf eu gweld nhw i gyd yn mwynhau eu hunain

“Dechreuodd siwrnai’r ‘Dynamic Signing Sensations’ yn wreiddiol fel côr yn Ysgol Sant Christopher ac roeddent yn adnabyddus fel  ‘Sign of the Times’.   Fodd bynnag pan adawodd rhai o’r aelodau penderfynodd yr ysgol symud y côr i ffwrdd o leoliad yr ysgol a chynnig cyfle i aelodau’r gymuned ehangach ymuno. Roedd Dynamic felly wrth eu bodd gallu cynnig cyfle i Amy, Emma a gweddill aelodau’r côr ailgynnull ac ail-frandio.

“Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl rieni/gofalwyr sy’n cludo’r bobl ifanc i’w sesiynau ymarfer rheolaidd a’u perfformiadau – heboch chi, fyddai yna ddim côr. Rydym i gyd wedi cyffroi ar gyfer y dyfodol, gyda llawer o gynlluniau yn eu lle ar gyfer 2022 a fydd yn gweld y côr yn tyfu ac yn cynnig llawer o gyfleoedd gwych i’r aelodau.”

Gyda’r fath ganmoliaeth uchel ac adolygiadau gwych, does dim dwywaith y bydd Dynamic Signing Sensations yn mynd o nerth i nerth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Online learning Bydd ysgolion yn Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)
Erthygl nesaf Care Rydym yn edrych am Weithwyr Cefnogi – a ydych yn barod am yr her?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English