Cwblhaodd 7 o bobl ifanc o Wrecsam Hanner Marathon Caerdydd yn llwyddiannus ar Hydref 1 gyda chymorth Gareth “Alfie” Thomas a’r hyfforddwr rhedeg rhyngwladol James Thie.
Ymgymrodd y 7 â rhaglen hyfforddiant a maeth llym fel rhan o Fyddin Alfie a ddechreuodd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin gyda sesiwn loncian brawf 2 filltir o hyd o amgylch Parc Bute fel y gallai James ac Alfie weld eu lefelau o ffitrwydd. Dyma pryd y sylweddolwyd beth oedd realiti’r cyfan wrth i rai ei chael yn anodd gan nad oeddent yn gwneud llawer o ymarfer corff fel arfer!
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Newid ffordd o fyw
Yna dechreuodd yr hyfforddi. Cefnogodd Senedd yr Ifanc Wrecsam a Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam y sesiynau hyfforddi wythnosol a chefnogi’r bobl ifanc i fynychu sesiynau gyda run4wales a gyda Alfie a James yng Nghaerdydd. Roedd rhaid i’r 7 ddechrau newid eu ffordd o fyw i allu hyfforddi’n iawn ar gyfer yr her.
Cyrhaeddodd penwythnos yr Hanner Marathon a dechreuodd gyda bore hamddenol yn y brifddinas a hyd yn oed ychydig o golff gwyllt. Yna aed i gwrdd ag Alfie a James er mwyn paratoi ar gyfer hanner marathon dydd Sul. Dyna pryd newidiodd y penwythnos! Cawsant eu hanfon oddi ar eu bws gan y dril ringylliaid cyn gynted ag y cyraeddasant y man hyfforddi a chawsant eu galw mewn rhes yn gyflym yn barod i weithredu. Anfonwyd Alfie i ganol y bobl ifanc tra roeddent yn gwylio Alfie yn derbyn triniaeth lawn y fyddin! Galwyd ef i redeg, loncian, plygu i lawr a chropian, loncian yn yr unfan a gwneud ymwthiadau ac aeth hyn ymlaen am gryn dipyn o amser. Roedd ein pobl ifanc yn credu mai nhw oedd nesaf!
Er rhyddhad iddynt cawsant eu rhoi mewn timau a’u harwain i wneud gweithgareddau meithrin tîm oedd yn cynnwys cwrs antur gwynt mawr. Roedd y dril ringylliaid yn ysgogi’r bobl ifanc ond roeddent hefyd yn gefnogol iawn a dywedodd y 7 eu bod wedi “cael hwyl” er eu bod yn flinedig. Daeth y diwrnod i ben gyda Pharti Pasta ac araith ysbrydoledig gan Alfie ac aethant i’r gwely’n gynnar yn barod ar gyfer y diwrnod wedyn a’r heriau oedd o’u blaenau.
“profi sawl emosiwn”
Dechreuodd diwrnod yr hanner marathon gyda brecwast iach a digon i lenwi. Aethant ati i gynhesu a pharatoi ar gyfer yr hanner marathon y tu mewn i Gastell Caerdydd. Roedd yr awyrgylch yn wych a phrofodd y 7 sawl emosiwn ond roedd y gymeradwyaeth a’r gefnogaeth i Fyddin Alfie yn eu hannog i fod yn barod i redeg. Arhosodd yr anogaeth ar hyd y ffordd 13.1 milltir gyda phawb yn cymeradwyo a gweiddi geiriau o anogaeth.
Cytunodd yr holl bobl ifanc fod y dyrfa a chefnogaeth Alfie wedi eu helpu tuag at y diwedd.
Daeth y cyntaf o Wrecsam i groesi’r llinell derfyn mewn ychydig dros 1 awr a 49 munud, gyda’r 6 oedd yn weddill i ddilyn. Roedd ganddynt i gyd ofnau ac amheuon cyn y ras ond roedd y 7 wedi cwblhau’r her a nawr mae ganddynt fedalau i brofi hynny!
Tricia Jones, Jade Griffith, Chloe Roberts, Gareth “ALFIE” Thomas, Mia Jeffs, Sam Sides, Jordan Jackson a Yasmin Sides
Aeth rhai o’r bobl ifanc ati hyd yn oed i roi negeseuon diolch i’w hanfon i Alfie
“profiad gwirioneddol dda”
“Roedd yn brofiad gwirioneddol dda. Mae Byddin Alfie yn sicr wedi rhoi i mi’r ysgogiad i ddod yn fwy egnïol ac iach yn fy mywyd ac rydw i mor ddiolchgar am y profiad”
“Mae Byddin Alfie wedi bod yn ysgogiad gwych i ddod yn fwy egnïol ac rwy’n ddiolchgar am y profiad anhygoel”
“Mae Byddin Alfie yn brofiad nad ydw i fyth yn mynd i’w anghofio!!! Dwi mor ddiolchgar am yr holl gymorth ond hefyd am y gefnogaeth mae pawb wedi ei roi – mae wedi fy ysgogi i ddod yn iachach”
“Diolch am y cyfle ac mae’n brofiad na fydda i fyth yn ei anghofio”
“Camp anhygoel”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi:
“Mae’n gamp anhygoel a dylai’r saith fod yn falch iawn ohonynt eu hunain. Mae eu gwaith caled wedi talu ac rwy’n dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol. Da iawn bawb!”
Bydd 4 elusen hefyd yn elwa o’r her, y rhain yw Prosiect Gunjur, Hosbis Tŷ Gobaith, Hosbis Tŷ’r Eos a’r Gymdeithas Awtistig. Hoffai’r bobl ifanc i gyd ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi eu helusennau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI