Unwaith eto, bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol trwy gynnal digwyddiad ddydd Mercher 3 Awst rhwng 12pm a 4pm, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf.
Mae’r Diwrnod Chwarae ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn, pobl yn eu harddegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, sydd i gyd yn cael gwahoddiad i ymuno yn y digwyddiad chwareus ac am ddim hwn.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd ffefrynnau fel y pwll tywod enfawr ac wrth gwrs brwydrau dŵr a llwyth o gyfleoedd i blant chwarae’n wirion a chael amser gwych. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad ydych yn poeni eu gwlychu a’u baeddu. Mae hefyd yn ddiwrnod da am bicnic.
Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Drwy wneud hyn, mae digwyddiad Diwrnod Chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i sicrhau bod plant y fwrdeistref sirol gyfan yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH