Mae hi’n Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd heddiw, ac rydym ni’n atgoffa busnesau bwyd yn Wrecsam i ganolbwyntio ar ddiogelwch bwyd a bod ein tîm yma i gefnogi busnesau i wella safonau a chadw defnyddwyr yn ddiogel.

Mae swyddogion diogelwch bwyd yn archwilio busnesau bwyd i wirio eu bod yn dilyn cyfreithiau hylendid a diogelwch bwyd er mwyn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Maent yn rhoi sgôr o sero (angen gwelliant ar frys) i bump (safonau hylendid yn dda iawn) gan ddefnyddio Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae’r Cynllun yn helpu defnyddwyr i ddewis lle i fwyta neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir iddynt am safonau hylendid y busnes

Yn genedlaethol, mae tua 2.4 miliwn achos o salwch oherwydd bwyd y flwyddyn, ac mae bacteria diogelwch bwyd cyffredin yn cynnwys Campylobacterau a Salmonela.

Mae dwy filiwn o bobl yn y DU yn byw gydag alergedd bwyd, mae gan 600,000 glefyd seliag, ac mae gan eraill anoddefiadau bwyd.

Gellir lleihau risgiau diogelwch bwyd wrth i fusnesau bwyd weithredu ar lanhau, rheoli plâu, rheoli diogelwch bwyd a mynd i’r afael â materion bwyd sydd yn galluogi achosi risgiau i bobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau, a phersonau diamddiffyn eraill.

“Rydym ni yma i gynnal safonau diogelwch bwyd”

Dywedodd Rebecca Pomeroy, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro – Gwarchod y Cyhoedd, “Mae diogelwch bwyd da yn gwneud synnwyr busnes gwell.  Wrth i ni ddychwelyd i fusnes ar ôl Covid, mae hi hyd yn oed yn fwy pwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar safonau diogelwch bwyd yn yr ardal/ddinas.

“Mae gennym ni wybodaeth i gefnogi busnesau bwyd i wella pan fo angen.  Rydym ni yma i gynnal safonau ac rydym ni’n atgoffa busnesau y gall ymweliad gan ein harchwilydd diogelwch bwyd ddigwydd ar unrhyw adeg.”

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Mae nifer o fusnesau bwyd eisoes yn cyrraedd safonau da o hylendid, ac rydym ni’n gwybod bod hyn yn bwysig i ddefnyddwyr sydd eisiau teimlo’n hyderus na fydd y bwyd maent yn ei ddewis yn eu gwneud yn sâl.

“Gall materion fel gwenwyn bwyd a digwyddiadau o alergeddau heb eu datgelu achosi dioddef diangen i unigolion, yn ogystal ag effeithio ar eu teuluoedd.  Rydym yn cydweithio gyda’r cyngor sydd yn cefnogi busnesau ac yn eu helpu i ddeall y gofynion rheoliadol.”

Mae’n rhaid i fusnesau bwyd fod wedi cofrestru gyda ni a byddant yn derbyn sgôr Cynllun Safonau Hylendid Bwyd sydd yn dangos pa mor dda mae’r busnes yn ei wneud yn gyffredinol, yn seiliedig ar y safonau ar adeg yr archwiliad.  Mae modd dod o hyd i’r sgoriau yma ar-lein ac ar sticeri sy’n cael eu harddangos yn y busnesau.

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau bach ar weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a rheoliadau diogelwch bwyd ar gael ar food.gov.uk.

Gallwch daro golwg ar sgoriau busnesau bwyd yma.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH