Mae cyfle i chi ferchen ar eich darn bach o hanes Wrecsam eich hun ar ffurf y Ci Acton sydd wedi ei greu yn defnyddio technoleg newydd 3D diolch i beirianwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Cafodd y ci 197 mlwydd oed, sydd bellach yn ymgartrefu yn Amgueddfa Wrecsam, ei sganio gan Olivier Durieux ac Arfon Hughes. Sganiwyd 20 miliwn o rannau gwahanol o’r arteffact er mwyn creu modelau hyfryd o’r ci.
Cafodd y pedwar ci eu cerfio gan y saer coed lleol, James Edwards yn 1820 a buont yn sefyll yn edrych dros borth Ystâd hanesyddol Acton.
“Tirnod eiconig yn Wrecsam”
Dywedodd Karen Harris, o Amgueddfa ac Archifau Wrecsam: “Rydym wedi bod yn archwilio ffyrdd o ddod â rhai o wrthrychau’r amgueddfa i’r unfed ganrif ar hugain ac oherwydd bod y ci yn gymaint o dirnod yn Wrecsam roeddem arnom ni eisiau dweud wrth fwy o bobl amdano.”
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd y ci gwreiddiol yn dal y tu ôl i wydr yn Amgueddfa Wrecsam, ond, o ganlyniad i’r prosiect technoleg 3D newydd anhygoel, rydym nawr wedi gallu gwneud modelau ohono i werthu yn siop yr amgueddfa a chynhyrchu model mwy i’w ddefnyddio i addysgu grwpiau sy’n ymweld o ysgolion.
£14.99 yn unig yw cost pob ci neu dau am £25.00 ac maent ar gael mewn 4 gorffeniad gwahanol, arian, aur, efydd a ferdigris.
Cysylltwch ag Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw ar 01978 297460 neu anfonwch neges e-bost at museum@wrexham.gov.uk
Plas Acton oedd un o’r tai pwysicaf yn Wrecsam, ac roedd yn gartref i’r enwog a’r bondigrybwyll ‘Hanging Judge Jeffreys’.
Enwyd y porth i’r tŷ yn ‘The Dogs’ gan y bobl leol ac yn ‘Four Dogs’ yn ddiweddarach wrth i’r milgwn ddod yn symbol o’r dref.
Cynhyrchwyd copïau o’r cŵn ac maent yn dal i warchod mynedfa ystâd Parc Acton hyd heddiw. Mae’r rhain yn gofebau i gofio rhan bwysig o hunaniaeth a threftadaeth leol Wrecsam.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU