Rydym ni’n cefnogi cynllun #PestSmart @DwrCymru i helpu diogelu pobl, dŵr a’r amgylchedd rhag cemegion mewn plaladdwyr.
Cyflwynwyd y cynllun am fod rhaglen fonitro dŵr arferol @DwrCymru wedi canfod olion o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydyn nhw wedi dod ar eu traws o’r blaen. Mae’r lefelau yn rhy isel i achosi perygl i ddŵr yfed, ond fe allen nhw dorri’r safonau dŵr yfed.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae #PestSmart yn hybu gwell ffyrdd o reoli plâu, chwyn ac afiechydon planhigion yn eich gardd heb effeithio ar yr amgylchedd.
Gall plaladdwyr fel chwynladdwyr achosi niwed i bobl a bywyd gwyllt, felly mae’n bwysig cymryd gofal arbennig gyda nhw.
Eu Cadw’n Ddoeth
- Cadwch blaladdwyr mewn man diogel sydd y tu hwnt i gyrraedd plant ac anifeiliaid.
- Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig. Peidiwch â phrynu plaladdwyr mewn swmp.
- Darllenwch y label bob tro.
Eu Defnyddio’n Ddoeth
- Rhowch y plaladdwyr ar y mannau rydych chi angen eu trin yn unig. Gallai unrhyw blaladdwyr sydd dros ben ganfod eu ffordd i mewn i’r amgylchedd.
- Defnyddiwch blaladdwyr mewn tywydd braf yn unig.
- Peidiwch â defnyddio plaladdwyr wrth ymyl peillwyr fel gwenyn neu loÿnnod byw.
- Gwnewch yn siŵr nad oes yna blant nac anifeiliaid anwes o gwmpas cyn i chi ddefnyddio plaladdwyr.
Cael Gwared â nhw’n Ddoeth
- Dylech gael gwared â phlaladdwyr drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y botel.
- Peidiwch byth â thywallt plaladdwyr i lawr y sinc; dylech fynd ag unrhyw blaladdwyr sydd dros ben i’ch canolfan wastraff leol.
Rhowch Gynnig ar Ddulliau Eraill
- Anogwch ysglyfaethwyr naturiol i ddod i’ch gardd.
- Tynnwch chwyn o’r pridd gyda llaw neu ddefnyddio sylweddau naturiol yn lle plaladdwyr.
Ewch i wefan #PestSmart i gael canllawiau, blogiau a chyngor am sut i reoli eich gardd heb ddibynnu ar blaladdwyr.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH