Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Da i Dyfu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Da i Dyfu
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 14, 2025 4:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
good to grow
RHANNU

Mae disgyblion saith ysgol yn Wrecsam wedi cael diweddglo cofiadwy i brosiect gwych a ariannwyd gan Bartneriaeth Bwyd Wrecsam ac a gydlynwyd gan Dîm Ysgolion Iach Wrecsam.

Fel rhan o’r prosiect Da i Dyfu, ymwelodd pob ysgol â Fferm Agri-cation lle derbynion nhw blanhigion yn ogystal â chyngor a chymorth gan Gardd Furiog Fictoraidd Erlas. Fe gymeron nhw ran hefyd mewn sesiynau Bwyta’n Gall, Arbed Mwy gyda’r tîm deietig lleol a rhoddwyd adnoddau coginio a garddio iddyn nhw, a gefnogwyd ymhellach gan dîm lleihau carbon y cyngor.

Daeth y prosiect i ben gyda sesiwn gyda staff o Fwyty Iâl yng Ngholeg Cambria a ymwelodd â phob ysgol i baratoi a choginio prydau pasta gyda rhai o’r cynnyrch a dyfwyd yn yr ysgol gan adael bag rhoddion iddyn nhw, gan gynnwys pecyn o basta macaroni, i feithrin arferion bwyta’n iach gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac roedd yn dysgu llawer o sgiliau bywyd pwysig fel garddio a choginio, yn ogystal â mynd i’r awyr agored a bod yn actif.

“Lluniwyd y fenter ar ôl i ddata diweddar ddangos bod llai na hanner y plant cynradd yn Wrecsam yn bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae’r rhaglen Da i Dyfu yn cyflwyno disgyblion i arferion bwyd cynaliadwy trwy eu cynnwys yn y daith fwyd lawn, o dyfu i goginio a bwyta, gan gynnig profiad cynhwysfawr ‘o’r fferm i’r fforc’.

I lansio’r prosiect, derbyniodd ysgolion offer garddio a chegin, gan gynnwys gwelyau uchel, offer addas i’w defnyddio gan blant, a nwyddau coginio. Fe wnaeth tîm lleihau carbon y cyngor ddarparu rhagor o ddeunyddiau garddio heb unrhyw gost ychwanegol. Bu Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yn mentora ysgolion yn ystod pob tymor, yn rhoi cyngor i staff a myfyrwyr ar dechnegau tyfu a chyflenwi hadau a phlanhigion i sicrhau cynaeafau llwyddiannus.

Ymwelodd myfyrwyr hefyd â fferm leol, Agri-cation, lle cawson nhw brofiad uniongyrchol o ffermio, gofal anifeiliaid a chynaliadwyedd ecolegol.  Roedd yr ymweliad hwn yn atgyfnerthu pynciau cwricwlwm fel bioleg, addysg bwyd, ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.

I gefnogi teuluoedd ymhellach, cynhaliodd tîm deietig Wrecsam sesiynau ‘Bwyta’n Gall, Arbed Arian’, gan gynnig awgrymiadau am fwyta’n iach a chyllidebu. Derbyniodd pawb a gymerodd ran lyfr ryseitiau i annog parhau ag arferion bwyta’n iach gartref. Cyfrannodd Coleg Cambria hefyd drwy gynnal gweithdai gwneud pasta gan ddefnyddio cynnyrch wedi’i dyfu gan y myfyrwyr eu hunain a helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau coginio ac ymfalchïo mewn rhannu bwyd gartref.

Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol.  Mae ysgolion wedi defnyddio eu gerddi i gynnal sesiynau coginio a blasu, gyda chynnyrch dros ben yn cael ei rannu â theuluoedd lleol, ac mae integreiddio dysgu ar sail gardd i’r cwricwlwm wedi agor cyfleoedd trawsgwricwlaidd mewn bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, technoleg bwyd a maeth.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol PlayDay Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Erthygl nesaf wrexham library ‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruthin Road Car Park
Wrecsam v Middlesbrough – cofiwch barcio a theithio 🚗🚌
Digwyddiadau
Hydref 29, 2026
Armed Forces
Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lleDigwyddiadau

Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029

Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026

Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Pobl a lleBusnes ac addysg

Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da

Hydref 26, 2026
Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English