Rydym wedi cael gwybod bod sgamwyr yn cysylltu â phreswylwyr yn yr ardal gan honni eu bod yn gweithio i Openreach i ddweud eu bod wedi cael gwybod bod eich llwybrydd yn dangos problemau.
Cyn i chi wneud unrhyw beth arall, arhoswch a meddwl – “ydi hwn yn sgiâm?”
Ydi!
Mae Openreach yn nodi’n glir ar eu gwefan na fyddan nhw fyth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol fel manylion banc – naill ai’n bersonol, dros y ffôn neu dros e-bost. https://www.openreach.com/search-results?_charset_=UTF-8&q=scam
Fyddan nhw byth yn gofyn am gael cysylltu o bell â’ch cyfrifiadur, ffôn neu ddyfais llechen chwaith.
Felly os bydd rhywun yn cysylltu â chi a dweud eu bod yn gweithio i Openreach a gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol, peidiwch â’i rhoi iddynt – rhowch y ffôn i lawr a rhowch wybod i Action Fraud.
Fe allwch chi gael cyngor gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd safonau masnach a Thrwyddedu, “Tra bo llawer o bobl yn parhau i weithio gartref, mae sgamwyr yn brysur yn ceisio dwyn eu harian neu eu gwybodaeth bersonol.
“Byddwch yn wyliadwrus bob amser am alwadau, negeseuon testun neu negeseuon eraill o’r fath, a rhowch wybod i bobl eraill am y peryglon. Gallant ddweud eu bod yn dod o unrhyw sefydliad, sydd naill ai’n gysylltiedig â’ch darparwr rhyngrwyd, eich banc neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
“Byddwch yn wyliadwrus bob amser am unrhyw un sy’n ffonio’n annisgwyl. Rhowch y ffôn i lawr neu anfonwch unrhyw negeseuon e-bost sgiâm amheus ymlaen at Action Fraud.”
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN