Mae Safonau Masnach Wrecsam yn ymwybodol bod rhai trigolion wedi derbyn pamffledi drwy eu drysau yn ddiweddar, gan gwmni credyd costus, yn cynnig benthyciadau tymor byr.
Cyfeirir atynt yn aml fel ‘benthyciadau diwrnod cyflog’, ac ystyrir y math hwn o fenthyciad fel ffordd sydyn o gael arian ychwanegol, ond gall gyfraddau llog fod yn hynod o uchel a gallent achosi problemau ariannol sylweddol i bobl.
Os ydych yn ystyried derbyn benthyciad diwrnod cyflog, ystyriwch eich holl opsiynau i ddechrau. Efallai bod ffyrdd eraill i chi ddatrys eich problemau arian tymor byr, felly ystyriwch opsiynau eraill cyn i chi fenthyg gan roddwr benthyciadau diwrnod cyflog.
Gall undebau credyd roi cymorth i bobl sydd â phroblemau ariannol, ac yn cynnig opsiwn amgen i fenthyciadau diwrnod cyflog neu fenthyca ar y stepen drws. Gallwch weld gwefan eich undeb credyd lleol yma.
Mae nifer o roddwyr benthyciadau diwrnod cyflog wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gynnig credyd, ond mae’n bwysig eich bod yn deall cost lawn eich ad-daliad, y nifer o daliadau bydd angen i chi wneud, a’r canlyniadau os nad ydych yn gwneud taliad.
Os ydych yn penderfynu derbyn benthyciad diwrnod cyflog, cymharwch y llog a’r taliadau cyn i chi fenthyg. Mae gan wefan Cyngor ar Bopeth, wybodaeth a chyngor i’ch helpu i wneud hyn.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!