Mae’n bosibl y byddwch wedi darllen am dwyll codau QR ar beiriannau parcio sydd, ar ôl eu sganio, yn mynd â chi i dudalen dalu dwyllodrus a luniwyd i edrych fel gwefan y gweithredwr.
Bydd y cod yn mynd â chi i safle ffug a fydd yn gofyn am wybodaeth er mwyn talu ac yna’n cymryd eich arian am barcio yn y maes parcio.
Hoffem sicrhau pobl nad yw codau QR yn cael eu defnyddio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam, ond mae rhai pobl wedi cael eu dal allan o Aberdeen i Portsmouth, ac mewn llefydd mwy lleol fel Llandudno a Bae Colwyn – ardaloedd y mae preswylwyr Wrecsam yn ymweld â hwy am y diwrnod yn aml. Felly os ydych chi’n mynd allan am y diwrnod, byddwch yn wyliadwrus os ydych chi’n gweld cod QR ar beiriant talu mewn maes parcio.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n amau bod cod QR ffug mewn maes parcio yn Wrecsam?
Os nad yw’n un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam, dylech roi gwybod yn uniongyrchol i weithredwr y maes parcio.
Os yw’n un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam, anfonwch e-bost at parking@wrexham.gov.uk
Gallwch ddarganfod pa rai yw meysydd parcio’r Cyngor ar ein gwefan.
Mae pob un o’n meysydd parcio’n defnyddio’r ap JustPark gan eithrio Tŷ Pawb lle gallwch dalu ar y safle gan ddefnyddio’r peiriannau ar ddiwedd eich ymweliad (gwnewch yn siŵr eich bod yn talu cyn gadael y maes parcio).
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Gyda thechnoleg fodern yn cael ei defnyddio ar draws y DU i dalu am nwyddau a gwasanaethau, byddwch yn ymwybodol o’r twyll hwn. Nid yn unig y byddwch yn colli eich arian, ond mae’n bosibl y byddwch hefyd yn derbyn dirwy am beidio â thalu’r gweithredwr priodol.”
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen CBDC yn ymrwymo i £3m o gyllid ar gyfer Pencampwriaeth D19 UEFA yn 2026 yng Ngogledd Cymru
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch