Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn wyliadwrus o godau QR ffug ar beiriannau parcio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn wyliadwrus o godau QR ffug ar beiriannau parcio
Y cyngorPobl a lle

Byddwch yn wyliadwrus o godau QR ffug ar beiriannau parcio

Diweddarwyd diwethaf: Awst 12, 2024 4:15 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Library Car Park
RHANNU

Mae’n bosibl y byddwch wedi darllen am dwyll codau QR ar beiriannau parcio sydd, ar ôl eu sganio, yn mynd â chi i dudalen dalu dwyllodrus a luniwyd i edrych fel gwefan y gweithredwr. 

Bydd y cod yn mynd â chi i safle ffug a fydd yn gofyn am wybodaeth er mwyn talu ac yna’n cymryd eich arian am barcio yn y maes parcio.

Hoffem sicrhau pobl nad yw codau QR yn cael eu defnyddio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam, ond mae rhai pobl wedi cael eu dal allan o Aberdeen i Portsmouth, ac mewn llefydd mwy lleol fel Llandudno a Bae Colwyn – ardaloedd y mae preswylwyr Wrecsam yn ymweld â hwy am y diwrnod yn aml.  Felly os ydych chi’n mynd allan am y diwrnod, byddwch yn wyliadwrus os ydych chi’n gweld cod QR ar beiriant talu mewn maes parcio.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n amau bod cod QR ffug mewn maes parcio yn Wrecsam?

Os nad yw’n un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam, dylech roi gwybod yn uniongyrchol i weithredwr y maes parcio.

Os yw’n un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam, anfonwch e-bost at parking@wrexham.gov.uk

Gallwch ddarganfod pa rai yw meysydd parcio’r Cyngor ar ein gwefan.

Mae pob un o’n meysydd parcio’n defnyddio’r ap JustPark gan eithrio Tŷ Pawb lle gallwch dalu ar y safle gan ddefnyddio’r peiriannau ar ddiwedd eich ymweliad (gwnewch yn siŵr eich bod yn talu cyn gadael y maes parcio).

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Gyda thechnoleg fodern yn cael ei defnyddio ar draws y DU i dalu am nwyddau a gwasanaethau, byddwch yn ymwybodol o’r twyll hwn.  Nid yn unig y byddwch yn colli eich arian, ond mae’n bosibl y byddwch hefyd yn derbyn dirwy am beidio â thalu’r gweithredwr priodol.”

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen CBDC yn ymrwymo i £3m o gyllid ar gyfer Pencampwriaeth D19 UEFA yn 2026 yng Ngogledd Cymru

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymraeg yn Wrecsam… Cymraeg yn Wrecsam…
Erthygl nesaf A allech chi fod yn gefnogwr rhieni? A allech chi fod yn gefnogwr rhieni?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English