Cynhaliwyd digwyddiad yn Tŷ Pawb yn ddiweddar i ddathlu’r hyn y mae Wrecsam wedi bod yn ei wneud i gefnogi pobl sy’n byw gyda Dementia a’u gofalwyr.
Yn y digwyddiad cafodd dyfais newydd ei lansio gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd o’r enw HUG. Mae HUG yn ddyfais synhwyraidd sy’n anelu at roi pleser a chysur i bobl sy’n byw gyda dementia.
Cafodd HUG ei ddylunio gan dîm dan arweiniad Cathy Treadaway yng Nghanolfan Ymchwil Gymhwysol mewn Celf a Dylunio Cynhwysol y brifysgol, neu Cariad.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r HUG wedi cael ei ddylunio i gael ei gofleidio ac mae ganddo galon sy’n curo a chorff meddal. Mae’n gallu chwarae cerddoriaeth a gellir ei newid yn hawdd i chwarae eich cerddoriaeth ddewisedig. Nid yw’r ddyfais newydd hon ar y farchnad agored eto a Wrecsam fydd un o’r lleoedd cyntaf i’w defnyddio mewn lleoliad cymunedol. Lansiwyd y cynnyrch yn y digwyddiad hwn yn Tŷ Pawb lle bu yr Athro Cathy Treadaway yn siarad amdano gyda’r gynulleidfa mewn cyflwyniad byr.
Mae Wrecasm yn ffodus o gael bod yn awdurdod treialu ac mae wedi derbyn casgliad bach o HUGs i’w dosbarthu mewn lleoliadau gofal ledled y sir.
Roedd RemPods a bocsys synhwyraidd yn cael eu harddangos i fynychwyr hefyd. Podiau atgofion yw RemPods sy’n helpu i drawsnewid unrhyw ofod gofal ac maent yn cynnig profiad therapiwtig sy’n tawelu unigolyn yn naturiol ac yn ei gwneud yn haws i bobl hŷn mewn gofal, yn arbennig y rhai gyda dementia, i droi at atgofion o’u gorffennol, gan roi cysur a sylfaen iddynt. Eu bwriad yw helpu pobl sy’n byw gyda dementia i wneud atgofion yn fwy byw, manwl, emosiynol a phersonol.
Mae cartrefi gofal ledled Wrecsam yn mwynhau rhyfeddodau’r blychau synhwyraidd arbennig hyn a’r RemPods. Mae’r blychau a‘r RemPods wedi eu dosbarthu i bob cartref gofal yn Wrecsam o ganlyniad i gyllid gan y Cynllun Gweithredu Dementia, sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy’r tîm Comisiynu a Chontractau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Dywedodd Cydlynydd Gweithgareddau sy’n gweithio yn un o’r cartrefi gofal yn Wrecsam, “Dwi wedi canfod y blwch synhwyraidd i fod yn werthfawr iawn o ran sicrhau fod pobl yn ymgysylltu. Rydym wedi cael llawer o hwyl gyda’r paentio a’r posau. Mae teuluoedd wedi cael cymaint o syndod gweld eu haelod o’r teulu yn paentio wrth iddyn nhw ymweld â nhw ac mae wedi eu hannog i ymuno ac aros am gyfnod hirach, gan droi ymweliad 10-15 munud yn amser gwerthfawr.”
Mae’r RemPods wedi bod yn wych, mae pobl wedi ymuno yn y gweithgareddau ac wedi creu atgofion gwych i bobl.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Comisiynu:
commissioning@wrexham.gov.uk / 01978 292066
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN