Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Estyn yn cydnabod “rhagoriaeth” yn ysgolion cynradd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Estyn yn cydnabod “rhagoriaeth” yn ysgolion cynradd Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Estyn yn cydnabod “rhagoriaeth” yn ysgolion cynradd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2019/11/13 at 10:49 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Estyn yn cydnabod “rhagoriaeth” yn ysgolion cynradd Wrecsam
RHANNU

Rydym yn falch o gyhoeddi bod rhai o’n hysgolion cynradd ymysg ysgolion o bob rhan o Gymru sydd wedi derbyn gwobr am ragoriaeth gan y corff cenedlaethol arolygu ysgolion.

Cynnwys
“Balch o staff a llywodraethwyr sy’n gweithio’n galed”“Yn falch ac yn freintiedig” o dderbyn gwobr”“Newyddion gwych i’r ddwy ysgol”

Roedd Ysgol Gynradd y Santes Fair, Wrecsam, ac Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth ymysg yr ysgolion o bob rhan o Gymru a gafodd eu cydnabod fel rhai rhagorol gan Estyn.

Derbyniodd ‘The Woodland School’ – ysgol annibynnol – y dyfarniad hefyd.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Derbyniodd pob un o’r ysgolion eu gwobrau mewn seremoni yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn.

“Balch o staff a llywodraethwyr sy’n gweithio’n galed”

Estyn yn cydnabod “rhagoriaeth” yn ysgolion cynradd Wrecsam

(Kevin Williams, Pennaeth Ysgol Bryn Tabor, gydag aelodau Cyngor yr Ysgol Sioned a Charlie, a thystysgrif rhagoriaeth yr ysgol gan Estyn)

Dywedodd Kevin Williams, pennaeth yn Ysgol Bryn Tabor: “Yn ddiweddar dathlodd yr ysgol ei phen-blwydd yn 50 ac roedd yn wych cael adborth mor bositif.

“Rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu llais y disgyblion yn Ysgol Bryn Tabor ac i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar safonau disgyblon ac ar les.

“Rydw i’n falch o’r staff a’r llywodraeth sydd gennym yn yr ysgol sy’n gweithio’n galed. Mae gennym grŵp gwych o ddisgyblion a rhieni cefnogol.”

Dywedodd Nia Roberts, Cadeirydd y Llywodraethwyr ym Mryn Tabor: “Fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, rwyd i’n falch iawn o’r staff a’r disgyblion yn Ysgol Bryn Tabor a hoffwn eu llongyfarch ar eu hymroddiad a’u gwaith caled.

“Fel Corff Llywodraethu, rydym yn teimlo’n falch iawn o fod yn rhan o dîm mor llwyddiannus ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r ysgol ar ei thaith lwyddiannus.”

“Yn falch ac yn freintiedig” o dderbyn gwobr”

Meddai Rachel Acton, Pennaeth Ysgol y Santes Fair: “Roeddem yn falch ac yn freintiedig o gael ein gwahodd i dderbyn gwobr Estyn am ragoriaeth ar ran teulu anhygoel y Santes Fair; ein plant gwych, ein rhieni cefnogol a’n staff a’n llywodraethwyr ardderchog.”

“Newyddion gwych i’r ddwy ysgol”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r ddwy ysgol, a hoffwn longyfarch staff, rhieni, disgyblion a llywodraethwyr Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol y Santes Fair am y gwaith caled maent wedi ei wneud i sicrhau’r gwobrau hyn.

“Rydw i hefyd yn llawn edmygedd at y gwaith mae’r pennaeth a’r staff wedi ei wneud i’r dysgwyr yn Woodlands.”

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

DWEUD EICH DWEUD

Rhannu
Erthygl flaenorol Byw yn dda gyda dementia yn Wrecsam – dewch i gwrdd â HUG! Byw yn dda gyda dementia yn Wrecsam – dewch i gwrdd â HUG!
Erthygl nesaf Pob lwc Ysgol Clywedog Pob lwc Ysgol Clywedog

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

start-up clinics
Busnes ac addysg

Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!

Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Gorffennaf 16, 2025
good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English