Mae yna newyddion da i ganol tref Wrecsam, gyda’r cyhoeddiad bod y gr?p ystadau a leolir ym Manceinion, MRC Property wedi prynu’r adeilad mawr ar Sgwâr Henblas.
Roedd y safle, sy’n cysylltu â’r hen siop T J Hughes ac yn rhedeg ar draws Sgwâr Henblas, wedi colli ei siop BHS ym mis Awst y llynedd, ar ôl i’r siop gadwyn genedlaethol fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ynghynt yn yr haf.
Roedd cangen Swyddfa’r Post, siop deganau The Entertainer ac Evans clothing yn yr adeilad hefyd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae Adran Tai ac Economi’r Cyngor wedi gweithio’n galed gydag MCR ers i’r cwmni gyfnewid ar y safle i edrych ar denantiaid posibl.
Cynhelir sgyrsiau pellach i drafod y cyfleoedd ar gyfer y safle hwn o ran adfywio rhan allweddol o’r dref.
“Falch iawn o’r ffydd a ddangosir yng nghanol tref Wrecsam”
Croesawodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Wrecsam y newyddion bod y cytundeb ar y safle wedi’i gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Pan aeth BHS i ddwylo’r gweinyddwyr, roedd yn amlwg yn newyddion trist iawn i’r stryd fawr ar draws y DU.
“Mae’r amser a’r tueddiadau yn newid ar draws y wlad, ac nid Wrecsam fydd yr unig dref sy’n gorfod newid gyda nhw. Rydym yn falch iawn bod MCR wedi penderfynu rhoi eu ffydd yng nghanol tref Wrecsam, a buddsoddi yng nghanol y dref”.
Dywedodd llefarydd am MCR: ‘Mae caffael Sgwâr Henblas yn ychwanegiad cyffrous at ein portffolio manwerthu sy’n ehangu’n gyson.
“Fel busnes, rydym wedi gweld llwyddiant blaenorol gydag adnewyddu asedau dirwasgedig, a thrwy weithio ar y cyd â Chyngor Wrecsam, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu adnodd cymysg i’r ardal sy’n cyd-fynd â Phrif Gynllun cynhwysfawr Canol y Dref.’
Prif Gynllun Canol y Dref
Yn Ebrill 2016, mabwysiadodd Cyngor Wrecsam ei Brif Gynllun Canol Tref – rhywbeth sy’n dangos sut mae’r cyngor eisiau i’r dref ddatblygu yn y dyfodol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Evans: “Roedd y Prif Gynllun yn gwneud pwysigrwydd Stryt Henblas a Sgwâr Henblas yn amlwg iawn, felly mae’n wych gweld yr addewid o ddatblygiad newydd yn y rhan honno o’r dref.”
“Rydym bob amser wedi dweud bod y rhan hon o’r dref yn hanfodol, gan ffurfio canol y dref draddodiadol ynghyd â’r Stryd Fawr, Stryt Siarl, Stryt y Rhaglaw, Stryt yr Hôb a Stryt Caer.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI