Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr diwahoddiad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr diwahoddiad
Y cyngor

Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr diwahoddiad

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 25, 2017 4:11 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr diwahoddiad
RHANNU

Mae Safonau Masnach yn gofyn i chi fod hyd yn oed yn fwy gwyliadwrus yr haf hwn ar ôl achosion diweddar o alwadau diwahoddiad. Mewn un achos, bu iddynt rwystro pâr mewn oed rhag talu £28,000 am do newydd nad oedd angen ei newid ar ôl cael eu targedu gan alwyr diwahoddiad. Yn anffodus, mewn digwyddiad arall, fe gollwyd £10,000 gan fod Safonau Masnach wedi cael gwybod yn rhy hwyr i allu ymyrryd.

Cynnwys
  • Cael gwared â gweithwyr o’r eiddo
  • Peidiwch â thalu dim o flaen llaw
  • Cofiwch: –

Ym mhob achos, fe ddywedodd y galwr diwahoddiad wrth y person hŷn fod ganddyn nhw deils yn rhydd neu rai wedi cracio ar y to, neu fod angen glanhau’r landeri. Yna, fe oeddent yn cael eu perswadio i gael teils newydd wedi’u gosod neu lanhau’r landeri, fel arfer am swm bach o arian fel £20.00, ac roeddent yn cytuno i hynny.

Pan maent wedi cytuno i’r gwaith yma, mae’r galwr diwahoddiad wedyn yn dweud wrth y person hŷn bod angen gwneud mwy o waith ar frys, fel gosod trawstiau newydd yn lle rhai sy’n pydru neu ffelt newydd. Mae pris y gwaith wedyn yn cynyddu i filoedd o bunnoedd ac mae’r person yn teimlo dan bwysau i gytuno i dderbyn y gwaith ac yn talu symiau mawr o arian am waith a oedd yn ddiangen yn y lle cyntaf, neu sy’n eithaf di-werth.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Cael gwared â gweithwyr o’r eiddo

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

“Mae’r rhain yn ddigwyddiadau sy’n peri gofid ac mae Swyddogion Safonau Masnach a’r Heddlu wedi ymweld â chartref sawl cwsmer hŷn heb oedi, er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd iddyn nhw ac i gael gwared â’r gweithwyr o’r eiddo cyn i’r cwsmeriaid gael eu gorfodi i dalu symiau mawr o arian. Rydyn ni’n gofyn i chi gadw golwg ar eich perthnasau hŷn a’ch cymdogion, rhag ofn mai nhw fydd targed nesaf y galwyr diegwyddor.

Peidiwch â thalu dim o flaen llaw

Mae Safonau Masnach Wrecsam wastad yn eich cynghori i beidio â chytuno i dderbyn gwaith yn syth ar garreg y drws a pheidiwch byth â thalu ymlaen llaw. Dylech bob tro geisio cael sawl dyfynbris gan grefftwyr sydd ag enw da cyn cytuno i unrhyw waith. Bydd crefftwyr cyfrifol wastad yn fodlon rhoi amser i chi benderfynu a ydych am barhau â’r gwaith ai peidio.

Cofiwch: –

• Os ydych yn prynu rhywbeth sydd werth £42 neu fwy, mae’n rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi eich hawl gyfreithiol i gyfnod o 14 diwrnod i ailfeddwl. Os yw’r gweithiwr yn gallu cychwyn ar y gwaith ar unwaith ac yn gofyn i chi ildio eich hawliau, dylai hynny fod yn rhybudd i chi.
• Os ydych yn gofyn i weithiwr adael a’u bod nhw’n gwrthod, mae hynny’n drosedd. Cysylltwch â’r Heddlu a Safonau Masnach ar unwaith.

Os ydych chi’n gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus neu os oes masnachwr twyllodrus wedi cysylltu â chi, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05; llinell ffôn Saesneg 03454 04 05 06. Os ydych chi’n pryderu am weithwyr neu rai’n rhannu taflenni yn eich ardal chi, cysylltwch â’r tîm plismona lleol ar 101. Os oes masnachwr yn troi’n ddifrïol neu os ydych yn teimlo dan fygythiad, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bywyd newydd i safle canol y dref o dan berchnogaeth newydd Bywyd newydd i safle canol y dref o dan berchnogaeth newydd
Erthygl nesaf Library News Sut i wella darllen eich plentyn mewn un cam rhwydd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English