Os ydi eich plant fel y rhan fwyaf o blant mi fyddan nhw’n codi ac yn mynd i’w gwlâu yn hwyrach. Yn chwarae allan fwy. Ac os ydyn nhw’n lwcus, efallai y byddwch yn mynd â nhw i ffwrdd ar wyliau.
Yr hyn sydd bron yn bendant yw byddan nhw’n mynd ar-lein yn fwy aml nag yn ystod y tymor…. i’w diddanu, i gadw mewn cysylltiad ac i sgwrsio gyda’u ffrindiau, chwarae gemau ar-lein a llu o bethau eraill y mae plant yn defnyddio’r rhyngrwyd ar ei gyfer.
Gyda’r holl amser ychwanegol sy’n cael ei dreulio yn gwneud mwy ar-lein, sut y gallwn fod yn siŵr bod pobl ifanc yn ein teulu yn ddiogel rhag y problemau y gallan nhw ei wynebu bob dydd?
Mae Tîm Get Safe Online wedi cyhoeddi awgrymiadau amserol i rieni a gofalwyr i helpu plant fwynhau profiad diogel a hyderus ar-lein:
- Sgwrsiwch yn rheolaidd gyda’ch plentyn am yr hyn y byddan nhw’n ei wneud ar-lein a gwnewch iddyn nhw ddangos i chi. Dysgwch am y technolegau a’r tueddiadau newydd. Siaradwch am yr agweddau negyddol o or-rannu, gweld cynnwys sy’n amhriodol, seiber-fwlio, perygl dieithriaid, gwario arian heb reolaeth arno a bod ar-lein am ormod o amser. Dangoswch esiampl dda eich hun.
- Helpwch eich plentyn i edrych ar wefannau ac apiau sy’n ddiogel. Gwiriwch yr hyn y maen nhw’n ei wylio ac/neu rannu ar safleoedd ffrydio fel YouTube a TikTok. Anogwch nhw i ddefnyddio platfformau sy’n addas i blant fel YouTube Kids.
- Mae chwarae gemau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, rhannu lluniau/fideos a llawer o apiau a gwefannau eraill gyda chyfyngiadau oedran am reswm, felly gwnewch yn siŵr nad ydi eich plentyn yn cael mynediad i’r rheiny os ydyn nhw’n rhy ifanc.
- Lawrlwythwch apiau o ffynonellau cydnabyddedig fel yr App Store a Google Play. Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost ei hun wrth osod cyfrifon ac apiau i’ch plentyn.
- Trafodwch a chytunwch ar ffiniau a rheolau o oedran ifanc, gan gynnwys defnydd priodol ar-lein, gan wastad fod yn barchus ac yn ymwybodol o’r amser y maen nhw’n ei ddefnyddio ar-lein. Rhowch reolaeth iddyn nhw, ond cofiwch nad oes ganddyn nhw’r profiad na’r aeddfedrwydd i wneud y dewisiadau cywir bob tro.
- Ystyriwch osod apiau a meddalwedd rheoli i rieni ar gyfrifiaduron, dyfeisiadau symudol a gemau cyfrifiadur, nodweddion preifatrwydd ar safleoedd rhwydweithiau cymdeithasol, dewisiadau diogelwch ar beiriannau chwilio a gosodiadau lleoliad diogel ar ddyfeisiadau ac apiau. Trowch eich ffilteri teulu ymlaen ar eich Protocol Rhannu Gwybodaeth.
- Arhoswch yn gyfarwydd gyda gêm neu duedd cyfryngau cymdeithasol newydd, yn arbennig y rheiny sy’n atynnu cyhoeddusrwydd negyddol am eu bod yn dreisgar, yn annog hapchwarae, neu’n gadael y drws yn agored i anfon negeseuon at ddieithriaid, galluogi’r cyfle i hudo plentyn neu fathau eraill o orfodaeth.
- Ar gyfer galwadau fideo, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn ddiogel drwy ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf o’r platfform, gan ddilyn ei gyngor diogelwch a gwirio fod gwahoddiadau ac ymatebion i alwadau ddim yn gallu cael eu gweld y tu allan i’r grŵp galw a gytunwyd arno.
- Mae chwarae gemau ar-lein yn gallu bod â manteision datblygol i bobl ifanc ond siaradwch gyda nhw am yr agweddau negyddol posibl o sgwrsio gyda dieithriaid, pryniannau o fewn gemau (fel cistiau trysor, crwyn a thwyllo), a gorwneud hi o ran amser ar y sgrin.
- Siaradwch gyda’ch plentyn am wybodaeth anghywir, gam-wybodaeth a newyddion ffug. Dywedwch wrthyn nhw i beidio â chredu neu rannu popeth y maen nhw’n ei weld neu ddarllen, yn enwedig yn y dyddiau o ‘newyddion’ wedi’i noddi a delweddau, fideos a thestun wedi’u creu gyda Deallusrwydd Artiffisial.
- Rhybuddiwch eich plentyn am wybodaeth gyfrinachol, manylion personol a delweddau/fideos am eu hunain ac eraill y maen nhw’n ei rhannu mewn negeseuon, proffiliau a sgyrsiau. Ystyriwch yr hyn yr ydych yn ei rannu am eich hun.
- Heb fod yn rhy reolaethol, cadwch lygad ar weithgareddau ar-lein eich plentyn a gwybod sut i adnabod yr arwyddion fod rhywbeth ddim yn iawn. Er enghraifft, mae troseddwyr wedi manteisio ar ddefnyddio’r we i recriwtio plant i wneud gweithgareddau anghyfreithlon fel seiberdroseddu a chludo cyffuriau.
Mae Get Safe Online yn ffynhonnell gwybodaeth a chyngor arweiniol y DU ar ddiogelwch ar-lein i’r cyhoedd a busnesau bach. Mae’n bartneriaeth ddielw, sector cyhoeddus/preifat sy’n derbyn cefnogaeth gan yr asiantaethau gorfodi’r gyfraith a sefydliadau arweiniol mewn diogelwch rhyngrwyd, bancio a manwerthu. Ewch i’w gwefan i gael mwy o wybodaeth ar gadw eich plant a chithau yn ddiogel ar-lein.