Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadw Wrecsam yn Ddi-sbwriel
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Kings of Leon concert in Wrexham
Cyngerdd Kings of Leon – Cau Ffyrdd Arfaethedig dydd Sadwrn a dydd Sul (27 a 28 Mai)
Arall Yn cael sylw arbennig
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Y cyngor > Cadw Wrecsam yn Ddi-sbwriel
Y cyngorYn cael sylw arbennig

Cadw Wrecsam yn Ddi-sbwriel

Diweddarwyd diwethaf: 2021/02/09 at 1:44 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cadw Wrecsam yn Ddi-sbwriel
RHANNU

Yn dilyn cyfarfod y Bwrdd Gweithredol fore heddiw, cyflwynwyd neges glir y dylid Cadw Wrecsam yn Wrecsam Ddi-sbwriel er mwyn ymdrin â’r nifer cynyddol o bryderon gan y trigolion ynghylch tipio anghyfreithlon a sbwriel.

Byddwn yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a Caru Cymru ledled y fwrdeistref sirol, nid yn unig er mwyn casglu sbwriel, ond hefyd i ganfod y prif fannau lle mae pobl yn tipio’n anghyfreithlon yn rheolaidd, a chymryd camau gweithredu cadarnhaol.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n amlwg wrth wrando ar y trigolion eu bod wedi cael llond bol ar weld pobl anghyfrifol yn taflu eu sbwriel a’u gwastraff cartref, a difetha’r amgylchedd i ni gyd.

- Cofrestru -
Get our top stories

“Mae’n amser i ni weithredu a byddwn nawr yn rhoi Rhybuddion Cosb Benodedig i unrhyw sydd ddim yn cael gwared â’u sbwriel mewn ffordd gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys talu am wasanaeth “dyn mewn fan” nad oes ganddo Drwydded Cludydd Gwastraff ac unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon neu’n taflu sbwriel yn unrhyw ran o’r fwrdeistref sirol.”

“Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i gyd ar agor a dylech fynd â’ch holl wastraff i un o’r rhain.”

Yn ogystal â bod yn hyll, a difetha’r pleser a gawn o’n trefi a’n hardaloedd gwledig, mae sbwriel – yn enwedig sbwriel plastig a thipio anghyfreithlon – yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles ac mae’n bygwth bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru.

Mae hefyd yn golygu bod amser ac adnoddau’n cael eu defnyddio i gasglu a chael gwared â’r sbwriel.

Gwelwyd cynnydd sylweddol mewn tipio anghyfreithlon dros y 12 mis diwethaf. (e.e. yn ffigyrau Ebrill – Medi 2019 clywodd y ganolfan gyswllt am 491 achos, ond cafwyd 877 achos yn yr un cyfnod yn 2020).

Mae’r gwaith glanhau ar ôl achosion o dipio anghyfreithlon yn costio bron i £2 filiwn bob blwyddyn yng Nghymru. Gall prisiau tai fod yn is mewn mannau lle gwelir llawer o dipio anghyfreithlon gan fod yr ardal yn cael ei hystyried yn llai deniadol.

Byddwn yn rhannu mwy o newyddion â chi’n fuan ynghylch yr hyn rydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â throseddwyr.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

CANFOD Y FFEITHIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol AVOW Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (CMGW) yn cyhoeddi ‘Pasbort Gwirfoddoli’ i Dîm Ymateb Cymunedol Wrecsam
Erthygl nesaf Superfast Business Wales launches free Winter webinars for businesses Gweminarau rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau yn rhannu cyfrinachau gwerthu ar-lein

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 2, 2023
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Mai 23, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Environment
Y cyngorPobl a lle

Parti Coed Parc Acton

Mehefin 2, 2023
Register to vote
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Eisiau ennill taleb gwerth £50?

Mai 24, 2023
Lego
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!

Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Mai 23, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English