Gan fod rheolau covid Llywodraeth Cymru am newid ar Ddydd Sadwrn y 15fed yn gadael hyd at 500 o bobl mewn digwyddiad y tu allan, fedrwn rŵan rhannu lleoliad ein bws diwylliant blaenllaw. Felly Plîs dowch draw ac ymunwch! Mae dal gennym lawer o lefydd i ymweld ar draws y sir
Mae gennym 2 fws felly cymrwch olwg i ddarganfod yr un agosach atoch-
Dydd Sadwrn 15fed
Bws 1
10.00am Moneypenny
11am Ramada
11.45am Maes parcio’r Turf
12.45pm Rafa club
14.00pm Coffa Bwlchgwyn (LL11 5UT)
14.30pm Garej Jordan’s (LL11 3US)
15.00pm Brymbo Cric (LL11 5TF)
15.30pm Swyddfa Ystad Brychdyn (LL1 6LW)
Bws 2
10am Sgwar y Frenhines
10.30 Adeiladau’r Goron (Stryd Caer)
11.00am Border Retail Park
11.30am Salvation army (LL11 1RR)
13.30 Ffordd Bellevue (LL13 7NH)
14.15 Erddig
15.15 Maes parcio fferyllfa Chirk
16.00 Clinig Glyn Ceiriog (LL20 7HH)
Dydd Sul 16fed
Bws 1
10.00am Siopau Gwersyllt (LL11 4NT)
10.45am Canolfan adnoddau Llay (LL12 0SA)
11.15am Clwb Glofa Gresfordd (LL12 8EE)
11.45am Rossett Green (LL12 0HW)
12.30pm Bellis – Holt (LL13 9YU)
13.00pm Holt Lodge
Bws 2
10.00am Penley Lle parcio ar ochr y ffordd (‘Penley Layby’)
10.45am Llyfrgell Owyrton
11.30am Bangor on Dee Royal Oak
12.15pm Clwb pêl droed Marchwiel
Ar ddydd Gwener 14, dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Ionawr bydd 2 o fysiau Dinas Diwylliant Wrecsam yn teithio o amgylch y sir er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i gais #Wrecsam2025.
Bydd gan y bysiau perfformwyr ac artistiaid a fydd yn neidio i ffwrdd mewn gwahanol leoliadau am berfformiad byr, cyn neidio yn ôl ar y bws i deithio i’r lleoliad nesaf
Oherwydd y cyfyngiadau covid presennol mae tîm Dinas Diwylliant wedi gorfod newid eu cynlluniau gwreiddiol lle roedd dros 40 o ddigwyddiadau i fod i gael eu cynnal ar draws y sir – mae hyn hefyd yn golygu nad ydym yn gallu rhannu’r union leoliadau ac amseriadau o ble a phryd y bydd y bysiau’n mynd.
Rydym yn gofyn i drigolion ar draws y sir gadw golwg am y 2 fws coch a fydd ar daith.
Os gwelwch un o’r bysiau byddem wrth ein bodd i weld eich lluniau – gallwch eu rhannu gyda ni gan ddefnyddio’r #tag #Wrecsam2025
Y perfformwyr fydd yn cymryd rhan fydd:
- Côr Merched Academi Delta
- Pumawd Pres NEW Sinfonia
- Theatr Gerddorol Coleg Cambria
- Luke Gallagher
- Megan Lee
- Andy Hickie
- Dawnswyr Ieuenctid Academi Delta
- Grŵp Dawns Eleni Cymru
Ychwanegodd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Lle a Phartneriaethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r bysiau’n ffordd newydd o ymgysylltu â chymuned gyfan Wrecsam, heb annog cynulliadau mawr na theithiau diangen. Yn gymaint ag y byddem wedi hoffi cael mwy o ymgysylltu, bydd angen i ni aros nes ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
“Bydd dod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025 yn arf gwych yn ein hadferiad o covid yn y dyfodol ac rwy’n annog pawb i ddysgu mwy am y gystadleuaeth a’r manteision a ddaw yn ei sgil i Wrecsam. Yn y cyfamser byddaf yn cadw llygad dros y dyddiau nesaf ar gyfer y bysiau diwylliant mawr coch.”